Cymhariaeth ddiddorol

'Di bod ar LiberalAvenger eto.

Roedd linc yno i flog diddorol sy'n rhoi cyfle i Ddemocratiaid sy'n gwasanaethau yn lluoedd arfog yr UDA i ymateb i beth ddywedodd Karl Rove yn ddiweddar am 9/11 (neu 11/9). Mae ei eiriau ar frig y wefan.

Roedd un neges ar Take it to Karl yn rhoi'r dyfyniad yma:
Of course the people don"t want war. But after all, it's the leaders of the country who determine the policy, and it's always a simple matter to drag the people along whether it's a democracy, a fascist dictatorship, or a parliament, or a communist dictatorship. Voice or no voice, the people can always be brought to the bidding of the leaders. That is easy. All you have to do is tell them they are being attacked, and denounce the pacifists for lack of patriotism, and exposing the country to greater danger. - Herman Goering yn llysoedd Nuremberg
Aeth ymlaen i gymharu'r dull hwn gyda beth wnaeth Bush i Irac, a beth sy'n cael ei ddweud nawr gan nifer o'r blaid Republican, Karl Rove yn un ohonynt.

Tescon

Falch i weld bod rhywun wedi dechrau ymgyrch yn erbyn monopoli Tesco fel yr archfarchnad fwya yn y wlad.

Oddi ar wefan y BBC, stori am tescopoly.org, sydd yn ymgyrchu am system 'watchdog' newydd i gadw cyw ar Tesco i sicrhau bod pawb yn cael budd o'r busnes (ffermwyr, cyflenwyr ayyb).

Wedi darllen 'chydig, ro'n i'n teimlo'n euog am beidio â gwneud dim am Tesco Bangor yn ailadeiladu'r siop yn fwy. Bechod na fasa fi wedi meddwl yn gynt.

Ro'n i chydig yn siomedig hefyd i nodi mai <tables> a javascript sy'n rheoli delwedd y wefan, ac nid CSS.

Mwy o falu awyr i addurno'r blog

Tra'n darllen blog Molly, sylwais ar gôd ar ochr y dudalen.

Felly dwi wedi gwneud yr un peth.

Band makepovertyhistory.org

Dwi wedi bod yn gwisgo un ohonynt ers tro bellach, a newydd roi un ar y blog (ia, draw fana ar y dde).

Os fysa chdi'n licio rhoi honna ar dy flog (os mai un blogger.com sydd gen ti) yna darllena 'mlaen.

Yn y dashboard, clicia ar Template (wrth ben y dudalen, rhwng Settings a View Blog).

Sgrolia lawr y sgrin côd tan ti'n dod i

#sidebar {
margin: 0 41px 0 547px;
padding: 20px 0 0 0;
font-size: 85%;
line-height: 1.4em;
color: #999;
}

ac ychwanega y darn yma o gôd ar ol color:#999; ond cyn y } olaf

background: url(http://www.makepovertyhistory.org/whiteband_small_right.gif) no-repeat -110px -195px;
z-index:1000;

h.y. fel ei fod yn edrych fel hyn

#sidebar {
margin: 0 41px 0 547px;
padding: 20px 0 0 0;
font-size: 85%;
line-height: 1.4em;
color: #999;
background: url(http://www.makepovertyhistory.org/whiteband_small_right.gif) no-repeat
-110px -195px;
z-index:1000;
}

Da de!

Os oes gen ti ddiddoreb mewn dysgu mwy o CSS, sbia ar y rhestr gwefannau dwi wedi rhoi mewn neges flaenorol.

Pot

Neshi fethu'r rhaglen, ond roedd erthygl diddorol ar wefan y BBC am ffilm Panorama nos Sul. 'Canabis: What every teenager should know' oedd enw'r rhaglen, ac roedd yr erthygl yn siarad gyda tad boi oedd wedi cael schizophrenia oherwydd ei fod yn smocio gormod o gêr.

Ma' na lot yn deud 'i fod o'n ddiniwed, ac yn gwneud dim drwg, ond dwi'n gwybod o brofiad personol nad ydy o yn hollol harmles. Mae dau foi o'n i'n nabod wedi bod i'r ward iechyd meddwl leol gyda bouts o schizophrenia.

Mae o'n annoyio fi pan dwi'n clywed pobol ifanc yn mynd on ac on am pa mor saff ydi weed ayyb, pan does gyna nhw'm cliw am betha fel hyn.

'Chydig o hwyl ar ddiwedd nos Sadwrn ella, ond pan ti'n smocio bob dydd dio'n neud dim lles.

Bae Guantanamo - Hafan anobaith America

Rhagor o'r blogiau asgell chwith Americanaidd.

Mi wna'i ddyfynu beth ddywedodd Seneddwr Durbin, Illinois ar lawr y Senedd ddydd Mercher Mehefin 15ed:

When you read some of the graphic descriptions of what has occurred here -- I almost hesitate to put them in the record, and yet they have to be added to this debate. Let me read to you what one FBI agent saw. And I quote from his report:

"On a couple of occasions, I entered interview rooms to find a detainee chained hand and foot in a fetal position to the floor, with no chair, food or water. Most times they urinated or defecated on themselves, and had been left there for 18-24 hours or more. On one occasion, the air conditioning had been turned down so far and the temperature was so cold in the room, that the barefooted detainee was shaking with cold....On another occasion, the [air conditioner] had been turned off, making the temperature in the unventilated room well over 100 degrees. The detainee was almost unconscious on the floor, with a pile of hair next to him. He had apparently been literally pulling his hair out throughout the night. On another occasion, not only was the temperature unbearably hot, but extremely loud rap music was being played in the room, and had been since the day before, with the detainee chained hand and foot in the fetal position on the tile floor."

Mae'n amlwg nad ydy'r Weinyddiaeth Bush yn poeni rhyw lawer am hawliau dynol neb, ond y rhai maent yn credu sy'n haeddu'r hawl hwnnw.

Fel dyweddodd y Seneddwr yn hwyrach yn ei araith, ni fuasai'r adroddiad hyn yn syndod os yn un o Auschwitz, neu'r Gulag. Ond o'r wlad sydd wedi gweithredu'r Wythfed Gwelliant i'w Cyfansoddiad, sef "..na gosber unrhywun mewn modd creulon neu anarferol" mae hyn yn hollol anghredadwy ac anhygoel. Dyma beth sy'n digwydd pan mae pobl mewn ofn.

O flog y Whisky Bar.

Rhywbeth i feddwl am...

Dwi'n darllen blog y Liberal Avenger yn eithaf amal, ac roedd o'n cyfeirio at neges mewn blog gan Lance Mannion, sef, yn ei farn o, neges orau'r flwyddyn ar unrhyw flog.

Mae Michael Moore a Al Franken yn son am pethau tebyg yn eu llyfrau: sef, sut mae cadw pobl mewn ofn yn caniatau carte blanche i arweinyddion mewn pwer.

Gwerth ei darllen YFMI.

Celf palmant 3D

Briliynt. Dwi'n byw i bethau fel hyn.

Welish i o ar morfablog.com. Boi o'r enw Julian Beever sy'n creu darluniau 3D ar y palmant.

Rhaid mynd i'r wefan hon - mae o'n wych.

(Ia, hyd yn oed yn well na'r boi na yn Gaer sy'n chwara ffidil drydan efo pedal FX gitars)

CSS diddorol

Rhywbeth i gofio (neu sbario fi chilio amdano pan dwi'i angen).

Markup diddorol ar stuffandnonsense.co.uk o dudalen ar steil magasin.

Werth i chi sbio arno fo gan ei fod o'n dangos pa mor syml yw CSS i steilio tudalen, yn hytrach na defnyddio tablau felltigedig (megis y wefan hon).

Get Firefox

Nodyn i ddeud rhaid i bawb ddefnyddio'r porwr gwe FireFox, a cael gwared ar Internet Exploiter unwaith ac am byth.

Dwi wedi rhoi botwm bach yn y golofn ar y chwith. Os 'da chi dal i ddefnyddio IE yna clicia fana; fel mae'r slogan yn dweud 'Rediscover the web'.

A tra 'da chi wrthi, lawrlwythwch Thunderbird, sef y rhaglen e-bost sydd hefyd gan mozilla (sy'n rhedeg Firefox).

Rhaglen gret, ac yn piso ar Outlook o uchder.

Ww! Wedi curo'r loteri!

...Ond yn Awstralia?!?!

Wedi derbyn ebost diddorol i'r hen gyfrif @yahoo.co.uk.

Subject:CONGRATULATIONS_YOUR_LOTTERY_WINNING_NOTIFICATION

A dyma fi'n ecseitio (a finna heb wneud y lotri!).

CONGRATULATIONS Sir/Madam,
We are delighted to inform you of your prize release on the 4th June 2005 from the Australian International Lottery program.
Nyts cont!
You hereby have been approved lump sum pay of US$1000,000.00 (ONE MILLIONDOLLARS) in cash credit!
Well blow me!
To begin your claim, please contact your claim agent;
Name: Mr. Alex Twala
Ar unwaith!

Felly, ebost i Mr Twala i weld beth fydd yr ymateb.

Css and all that

Wedi ail gydio yn y busnas dylunio i'r we 'ma. Dwi wedi bod yn segur yn y maes hwn yn ddiweddar, ond rwan mae'r byg wedi ei ddal unwaith yn rhagor a dwi am fynd amdani tro ma.

Dwi wedi bod yn ffidlan efo ffeiliau CSS gwefannau eraill i ddod i ddeall, ac wedi ail ddylunio gwefan y clwb gan ddefnyddio CSS yn unig (yn lle'r fframiau a'r <font> tags felltith na) fel ymarfer.

Felly dwi wedi dechrau ail ddylunio o scratch gwefan y côr. Dwi'n canu (tenor) i Gôr Cyntaf i'r Felin, ac yn (trio) rhedeg y wefan. Dwi wedi bod yn ddiog yn ddiweddar, ac mae angen ei diweddaru gyda gwybodaeth am berfformiadau'r côr ayyb, ond yn fwy na hynny mae'n defnyddio table layout gyda inline frames i arddangos y dudalen.

Wel, i'r rhai in the know mae hyn yn anathema i'r ffordd newydd o ddylunio i'r we, felly dwi'n benderfynol o'i hadnewyddu i fftio mewn gyda safonnau newydd.

So dwi 'di bod yn hamro'r nifer o wefannau sydd allan yna yn helpu gyda dylunio gyda CSS.

Pick of the bunch yw'r rhain
Oce, blog yw'r un olaf, ond mae'n cael ei ysgrifennu gan Andy Clarke, sy'n rhedeg y cwmni dylunio rhyngwladol malarkey.com (sydd yn seiliedig yn Abergele, o bob man!).

A dyma rai ddyla fi ddarllen mwy ohonynt:
Eniwe, dwi'n gobeithio cael y wefan newydd ar-lein yn y diwrnodau nesa' ma. Ond dwi'n meddwl bydd codio'r CSS yn llawer haws na sortio'r mes o weddill y safwe, sydd am gymryd hydoedd.

(ac yna, wedi gorffen hyn, rwyf am gymryd drosodd y byd! Mwhwhahaha!!)

Na Adam!

Dynas di hi!

Dyma un caption o nifer wnes i feddwl am wedi gweld y llun hwn ar wefan Plaid Cymru.

Hmm.

U turn syfrdanol

Wedi bod yn darllen tudalennau newyddion y BBC eto.

Mae hyn yn newid mawr mewn meddylfryd rhywun yn fy marn i.

Hwn oedd y boi (oce, Representative Republican) wnaeth wneud y penderfyniad xenophobic i newid enw 'French Fries' i 'Freedom Fries' (a hynny ar ol i Ffrainc wneud gymaint i'r UDA). Rwan mae o'n penderfynu nid yn unig i dynnu'r milwyr allan, ond hefyd bod y rhyfel yn anghywir oherwydd:
I just feel that the reason of going in for weapons of mass destruction, the ability of the Iraqis to make a nuclear weapon, that's all been proven that it was never there.
Geiriau mawr.

Dynion symud ty doniol

Class o lun ar flickr. com.

Lori symud ty.

Mwynhewch

Gwefan y Clwb Rygbi

Er mwyn i'r byd cael gweld, mae Cwlb Rygbi Caernarfon o'r diwedd â gwefan.

Bydd hyn hefyd yn boostio'r Google ranking...

Petha cwl efo gwyddoniaeth

Wedi darganfod hwn heddiw, grand-illusions.com

Er bod y wefan wedi'i chynllunio'n wael, ma na lwyth o betha diddorol yna. Mae o'n dangos yr effeithia diddorol gall gwyddoniaeth greu; sbiwch ar y Gaussian Gun, a'r esboniad o Lenze's Law (a pam na fydd raid i chi fod ofn eto mewn lift).