Bwyd yn y Bae

Ma' Tesco's rhy ddrud, Harry Ramsden's yn ddrud a'r chips yn crap, pobman arall rhy pretentious, felly does ond un opsiwn amdani: Gorge with George.

Ia, nid yn unig yr enw gorau i gaffi ers talwm, ond top mynsh hefyd.

Heddiw geshi Jymbo bap efo salad a thwrci, am £1.55. Ideal.

Rhaid hefyd roi mensh i Gaffi'r Oriel yng Nghaernarfon. Ti'n gwbod y siopa 'na sy'n gwerthu pob dim am bunt? Wel 'run math o beth mewn setting cullinary, ond bod popeth yn £1.50. Anghofia'r prisia ar y menu, £1.50 fydd y bil ar y diwadd. Sosej, bins a chips (we-hey) a panad o de o'n i'n cael bron iawn pob dydd.

Yn anffodus di bwyd seimllyd efo prisia felma ddim yn neud dim lles i'r bol...

Brawd yn yr Eidal

Mae'r brawd wedi mynd i Mantova yng ngogledd yr Eidal ac mae'n chwarae rygbi gyda'r tim lleol.

Mae'r wefan gyda lluniau o'r gem vs Perugia ddydd Sul. Gallwch chi sbotio fo?

'Nol

Dwi wedi cael cwynion nad ydw i wedi blogio ers talwm felly dyma ni eto.

Clincar o stori ar The Policeman's Blog, boi yn cael ei saethu yn ei fôls gan y cops - ond mae 'na fwy i'r stori na dim ond hynny.

Dwi lawr yn Kairdiff rwan hefyd. Cwrs cyfle, os ti efo diddordeb.