Ailddylunio Blogger, rhan 2

Dwi wedi rhoi cyflwyniad byr i fyd HTML a CSS, felly dyma cael ein dwylo'n fudur a dysgu i chwarae o gwmpas.

Y ffordd hawsaf o newid pryd a gwedd y blog yw drwy newid rhinweddau (properties) y testun. Mae gan y testun nifer o rinweddau gellir eu newid, ac nid dim ond math a maint:

font-family

Pa deulu mae'r ffont yn perthyn e.e. Arial, Times ayyb; neu monospace, serif, sans-serif

font-style

dewis o italic, normal neu oblique.

font-variant

Dewis o normal neu small-caps

font-weight

Dewis o normal, bold, bolder, lighter, 100, 200, 300, 400, 500, 600, 700, 800, 900

font-size

Maint y ffont, i'w nodi gyda xx-small, x-small, small, medium, large, x-large, xx-large; neu gyda px neu em.

color

Lliw y ffont

Mae hefyd yn bosib i newid rhinweddau blociau testun:

word-spacing

Faint o fwlch sydd rhwng y geiriau.

letter-spacing

Faint o fwlch sydd rhwng y llythrennau.

text-transform

Newid y testun i unai capitalize, uppercase, lowercase, none.

text-align

Fformatio'r paragraff i left, right, center, justify.

text-indent

Yr indentation o'r linell gyntaf.

line-height

Y bwlch rhwng y llinellau.

Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y W3C.

Mae nifer o'r rhinweddau hyn yn defnyddio px (picsel) neu em. Er engraifft, gellir rhoi maint y testun yn
font-size:12px;

Y broblem gyda hyn ydi ei fod yn atal i ddefnyddwyr allu newid maint y testun ar y sgrin (e.e. rhai a nam gweld) os ydynt yn defnyddio IE. Ffordd safonol yw defnyddio ems, sydd yn relative. Yn bersonol, dwi'n rhoi maint y testun yn y tag corff:

body {
font-size:0.84em;

Bydd maint y ffont yn unffurf, drwy gydol y ddogfen, gan adael i mi newid y tagiau h1, h2 ayyb.

Mae engraifft wych o hyn ar wefan Rentokil. Os yw'r testun yn cael ei fwyhau (FF:Ctrl a +; IE: View>Text Size>Larger; Safari:?sori!) mae gweddill y wefan hefyd yn newid hefyd. Os yw'r ffont mewn px, nid yw hyn yn bosib*.

Dyna be sy'n bosib gwneud i'r testun, ond sut mae'n gweithio?

Mae CSS yn defnyddio selectors. Yn yr engraifft uchod, defnyddiais dag y body. Mae popeth o fewn y tag yn mewn dogfwn HTML felly'n cael ei effeithio gan y rheolau steil.

Ond mae posib dewis rhannau eraill o'r ddogfen, heb effeithio ar bob un elfen.

O fewn y dudalen hon, mae tair adran: y neges, y bar ochr, a'r sylwadau.

Neges

Sylwadau

Bar Ochr

Os yw testun y neges i fod yn wahanol i destun y bar ochr neu'r sylwadau, nid yw hyn

p {
color:red;

yn llawer o ddefnydd.

Dyma lle mae id a class yn dod fewn. Os sbiwch dan y bonat (View source) mae nifer o'r tagiau HTML yn cario priodoleddau fel id="comments" neu class="post".

Os yw'r dair adran wahanol mewn divs sydd â id gwahanol, mae'r gwaith steilio'n haws:

Neges

Sylwadau

Bar Ochr

Ffeil CSS:

#neges p {
color:red;

#sylwadau p {
color:blue;

#bar-ochr p {
color:green;

Mae'r # yn cael ei ddefnyddio gyda ids. Os mai class="sylwadau" sydd wedi'i ddefnyddio, bydd rhaid ei ysgrifennu fel hyn:

.sylwadau {
color:black;

Sylwer hefyd mae'r selector yn ond yn dewis pob tag paragraff o fewn y div. Ni fydd tag
yn cael ei effeithio gan hyn. Gellir mynd a hyn ymhellach:

#neges p strong {
text-decoration:underline;

Bydd hyn yn dewis pob tag strong sydd o fewn paragraff sydd o fewn div id="neges".
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng class ac id? Gellir ond defnydido id unwaith yn y ddogfen, ond gellir defnyddio class mwy nag unwaith.

Dyna ni am rwan. Dwi'n siwr gelli di fynd ati rwan i wenud smonach o dy flog. Cofia gadw copi o'r stylesheet cyn ei mynd ati i'w golygu.

Erbyn y tro nesaf, dwi wedi cynllunio templad syml sy'n barod i gael ei roi yn blogger. Mi wnai fynd dros hwnna i esbonio mwy am steilio a hefyd am CSS positioning.

Mae croeso i adael unrhyw gwestiynau neu sylwadau, yn enwedig ar pa mor glir dwi'n esbonio pethau.

*Yn ddigon eironig, mae'r erthygl yma'n deud yn hollol i'r gwrthwyneb i mi. Mae'n engraifft dda hefyd o bobl ignorant.

Technorati:

Dangosodd rhywun yr erthygl yn Golwg ddoe i mi am y diffyg plant yng Nghymru sydd efallai'n cael effaith ar ddyfodol yr iaith.

Wnaeth o wneud i mi feddwl am y poster 'na o'r rhyfel byd cyntaf. Dyma fy fersiwn i.

A ddylai'r Gymdeithas ddechrau ymgyrch?

Breuddwydio

Dwi ddim yn ffan mawr o bel droed, ond dwi'n hoff o gic abowt efo'r hogia 'fyd.

Ond ma' Cwpan y byd ar ei ffordd, a gan na fyddai'n cefnogi neb llawar (heblaw, wrth gwrs, am Paraguay, Trinidad a Tabago, a Sweden), dyma'r agosa fydda'n ni'n cyrraedd am rai blynyddoedd o leiaf.

Ailddylunio Blogger

Welish i neges ar flog Rhys ynglyn â newid templad Blogger.

Felly dyma fi'n penderfynu ysgrifennu canllaw sut i fynd ati i ffidlan efo pryd a gwedd Blogger.

Yn y rhan yma dwi'n dangos sut mae cael y ffeil ar dy gyfrifiadur yn barod i'w olygu.

Yn gyntaf dwi'n awgrymu i ti lawrlwytho meddalwedd arbennigol, i wneud dy waith yn haws. Mae'n ddigon hawdd gwneud hyn i gyd efo Notepad (dwi'n cymryd ti'n defnyddio Windoze) ond mae'n haws golygu testun pan mae o'n wahanol lliw ayyb.

HTML-Kit - mae hwn yn broject côd agored, ac yn aidial i be 'da ni isho neud. Felly lawrlwytha, gosoda ar dy fashîn a bwtia fo fyny.

O ddashboard Blogger, clicia ar enw dy flog, ac yna ar Template.

Dyma beth sydd o dan bonat dy flog (Oce, ddim cweit, ond ta waeth am hynny). Paid a bod ofn, mae'n haws na mae'n edrych.

Clicia unrhywle ar y côd i ti weld y cursor yn fflachio. Yna pwysa Control ac A ar yr un pryd, dylai'r côd cyfan gael ei dduo (highlighted). Pwysa Control a C i gopïo, yna dos allan o dy borwr (Firefox, gobeithio!) ac agor HTML-Kit. Gwna'n siwr bod yna ffeil newydd wedi'i hagor (File>New) a bod dim testun ar y sgrin (os oes, pwysa Ctrl+A yna delete) a pwysa Control a V, gludo. Dyla'r holl gôd na rwan fod ar y sgrin, ac yn lliwiau'r enfys diolch i HTML-Kit. Os na darllena'r camau fwy ofalus.

Mae be ti'n weld o dy flaen yn gymysgedd o gôd HTML a CSS. Gan mai newid y pryd a gwedd byddwn ni yn unig, byddai'n canolbwyntio ar y CSS. Mae'n ymddangos yn agos i frig y dudalen, yn syth wedi'r tag <style type="text/css">. Mae fel arfer yn dechrau gyda rhywbeth fel

Blogger Template Style
Name: Minima Black
Designer: Douglas Bowman
URL: www.stopdesign.com
Date: 26 Feb 2004

Rwan, tisho cadw dwn a dileu poeth arall. Forrd gyfleus o wneud hyn: dua'r CSS i gyd, Control ac X, Control ac A, delete, Control a V. Dim ond y CSS dyla fod ar y sgrin.

Iaith yw CSS sydd yn fformatio dogfennau. Gellir ei defnyddio gyda nifer o ieithoedd gwahanol, ac nid ond HTML yn unig. Mae CSS yn rhoi cig a gwaed ar esgyrn HTML.

Yn yr achos hwn mae'r CSS yn inline, neu'n gynnwysiedig yn y ddogfen. Mae'n posib i lincio i ffeil CSS allanol, sy'n gwneud hi'n haws i olygu, ond mi wnai adael hwnna tan y diwedd. Dwi'n awgrymu'n gry os oes gen ti le ar y we i gadw ffeil CSS a chydig o jpgs neu gifs, dyma'r ffordd ymlaen.

Felly cadwa'r ffeil ar dy ddisgen galed, gyda'r estyniad .css.

Tro nesaf byddai'n esbonio sut mae mynd ati i newid y steiliau i bersonoli dy flog.

Technorati:

Simpsons go iawn

Rhywun yn nabod y teulu yma?

O be dwi 'di weld ers dydd Sadwrn, trailer di hwn i'r gyfres newydd sy'n ymddangos yn yr UDA. Ni fydd o'n cael ei ddangos yma felly diolch byth am yr interweb!

Saethu Lluniau

Ella i'r gun nuts na sydd hefyd â diddordeb mewn ffotograffiaeth.

Rhoi diwedd ar y bleidlais

I ferched o leiaf, yn Amercia.

via chasemeladies

Noethni

Mae heddiw yn ddiwrnod dim CSS, felly dyma'r blog yn noeth!

SFA yn gadael Sony

Dwi wedi clywed bod un o fy hoff fandiau, y Super Furry Animals, yn gadael Sony BMG i ymuno a Rough Trade.

Oes mwy i'r stori na hyn?