Teithio

Dwi newydd ddod nôl o Gaerdydd efo'r wraig a'r bwmp.

Geshi alwad ffon am 1 b'nawn Gwener yn deud bod rhywun wedi ffonio isho fi fynd i gyfarfod â Hewlett Packard efo fo. Dydd Llun. Yn Genefa.

Iawn de!

So dwi off fory ar Easyjet i'r Swisdir. Newydd dad bacio o Gaerydd a sticio fo'i gyd nôl mewn ces arall at fory. Bydd y camera mynd efo fi felly cad lygad ar Flickr.

Siarad Saesneg yn Gymraeg

Rhywbeth dwi'n clywed yn aml ydi pobl yn siarad Saesneg ond efo gramadeg Cymraeg, a mae o wastad yn ticlo fi.

Heddiw:
We're a company in Caernarfon we are


Sef:
Cwmni o Gaernarfon yda ni


Ma na lwyth o esiamplau eraill ond hwnna 'di un o'r rhai mwyaf cyffredin.

Wrth gwrs does na ddim posib i bopeth weithio. Dwn im os oes 'na eraill yn deud o, ond mae'n gyffredin i blant rownd ffor'ma ddeud, ar ôl anaf (gan bwyntio at eu coes/braich/cefn ayyb):
Ma' fama fi'n brifo


Neu:
My here hurts


Ddim cweit yr un peth...

Cwpan y Byd

Dwi nol yn gwaith wedi wythnos nyts yn Eisteddfod yr Urdd.

Gyda cwpan y byd yn dechrau'n fuan, dwi'n edrych ymlaen i gôls, sylwebu, a gemau, fel hyn:



MP3: Victor Hugo Morales, ail gôl Maradona, Lloegr vs Arianin, 1986.

Ac yn yr iaith fain:
...passes the ball to Diego, now Maradona with the ball, two people on him,
Maradona touches the ball, the genius of soccer heads to the right, and
leaves the third and passes to Burruchaga...
Always Maradona! Genius! Genius! Genius! ta-ta-ta-ta-ta-ta...
GOAL!! GOAL!!!
I am going to cry! Oh, my God! How beautiful soccer is! What a goal! Diego! Maradona!
I am crying, forgive me please....
Maradona, with a memorable run, with the most beautiful play of all time....
cosmic podge.... which planet are you from? You let it seem so easy,
and the whole country is a closed fist, is screaming for Argentina...
Argentina 2 - England 0...
Diegoal, Diegoal, Diego Armando Maradona...
Thank God, for soccer, for Maradona, for these tears, for this
Argentina 2 - England 0....