Statistics Web 2.0

Erthygl diddorol yn adran dechnoleg y Guardian am y nifer o bobl sy'n darllen, defnyddio ac creu cynnwys i applications Web 2.0.

Live Forever

Welish i ffilm dda ar BBC4 neithiwr, Live Forever, am y ffenomen Britpop yn y 90au.

Fi, o'n i ar ochr Oasis yn ystod Brwydr y Bandiau, a brynish i Roll With It mewn ymgais aflwyddiannus i'w cael nhw i rif un. A roedd gwylio'r ffilm yn gwneud i fi isho bod yn 19 eto.

Ta waeth, ffilm ddiddorol oedd yn holi nifer o bobl am y cyfnod, a sut roedd o wedi dod o'r 17 mlynedd o lywodraeth Torïaidd.

Bydd hi yn cael ei ailddangos yn fuan, mwy na thebyg, felly dwi'n awgrymu'n gry i'w gwylio hi.

Cynulliad Morphcore

Gwefan ddiddorol ddeshi ar draws drwy designmeltdown.com yw'r Morphcore Assembly.

Mae'r Morphcore yn creu bob math o gynnwys i'w cwsmeriaid: cerddoriaeth, dylunio, graffeg a logos ayyb. Gan nad oes ganddyn nhw dudalennau ar tudalennau o gynnwys, maent yn dewis rhyngwyneb syml ond effeithiol i gyfathrebu eu neges.

Mae'r wefan wedi'i ddylunio gyda'r technegau Javascript diweddaraf, gyda accordion a lightbox yn amlwg iawn.

Dwi'n siwr y byddwn ni'n gweld lot fwy o wefannau bach yn defnyddio'r math yma o ryngwyneb yn y dyfodol agos (dwi wedi bod isho neud un ers amser rwan).

Well, you better wake him up...

Os na 'da chi'n gallu fforddio Photoshop, neu cael methu cael eich crafangau ar gopi mor-leidr, un opsiwn ar gael yw'r GIMP.

Mae'r GIMP yn raglen côd agored sy'n gallu neud lot 'ma Photoshop yn neud (ond dim popeth!).

Ac un peth dwi wedi gweld yn aml yw blogs yn defnyddio thema Kubrick, ond wedi swopio'r ddelwedd ar frig y blog efo un eu hunain. Does gen i ddim problem efo hyn, ond nid ydy o'n blendio fewn efo gweddill y dyluniad yn dda iawn, felly dyma fy nghyfarwyddiadau i ar sut i wneud hyn mewn ffordd well.

Yn amlwg, rhaid lawrlwytho a gosod GIMP ar eich cyfrifiadur (ac mae angen gosod Java Runtime ar eich cyfrifiadur hefyd). Gellir cael cyfarwyddiadau manylach ar y wefan.

Wedi agor GIMP, mynd i File>Open ac agor y ddelwedd kubrickheader.jpg.

Yna agor y ddelwedd hoffech chi roi fewn yn lle'r gwreiddiol.

Yn y pallette 'Layers', dylai fod gyda un layer (yn amlwg) sef y ddelwedd wreiddiol*.

Clicia ar 'Duplicate Layer', a bydd gen ti ddau layer debyg. Llusga'r Background gwreiddiol i'r bin, does dim ei angen dim mwy. Clicia ar New Layer, a llusga'r layer yma i waelod y stack. Dylai'r Pallette Layers edrych rhywbeth fel hyn.

Ym mhrif pallette y GIMP, dewisa'r Magic Wand (neu Select Contigous Regions), a gwna'n siwr bod y Threshold (ar waelod y pallette) yn 30. Clicia ar layer y ddelwedd, a clicia ar rhan glas y ddelwedd. Dylai'r morgrug fartsio o gwmpas y rhan glas.

Pwysa Control+K i glirio'r lliw**. Dylai'r glas ddiflannu. Os na, dos yn ôl i'r cychwyn a checia ti di neud bob dim yn iawn.

Agora y ddelwedd arall, pwysa Control+A yna Control+c i ddewis y ddelwedd gyfan. Dos yn ôl i'r ddelwedd wreiddiol, a dewisa'r Layer newydd (wnest ti greu yn y drydedd gam). Pwysa Control+V i gopïo'r dy ddelwedd di i'r ddelwedd Kubrick.

Os di popeth yn iawn, dylai ti weld dy ddelwedd o dan ffram Kubrick. Os dio'n rhy fawr, bydd raid i ti newid maint y llun gwreiddiol (Image>Scale Image).

I orffen dos i File>Save As. Yna lanlwytha'r ddelwedd efo dy hoff gleient ftp.

A dyna ni. Gei di deimlo'n smyg rwan pan yn edrych ar flogs eraill sydd heb wneud hyn. Rhowch unrhyw gwestiynau yn y sylwadau.

*Mae layers yn gweithio fel sheets o blastig, tebyg i'r stwff na oedd athrawon yn defnyddio cyn projectors digidol efo OHPs.

**Mae dal chydig o'r glas ar ôl. Gellir cael gwared arno gyda Zoom ac Erase

Benny Crist

Mae bron unrhywbeth yn ddoniol os oes cerddoriaeth Benny Hill yn y cefndir.

The Passion of Benny Hill.

Rhaid i fi rybuddio gall hwn offendio'r pobol capal yn ein mysg. Mae 'na lot i ddeud am hwn ond dim fi di'r boi i neud hynny.

Pel Droed Cymreig

Blog newydd gan Eric Goch ar bel droed Cymru. Ddoe oedd y neges gyntaf, ond mae na ddigon yna erbyn hyn. Dwi'n disgwyl ymlaen i ddarllen mwy.

Oes 'na rhywun yn cofio'i wefan flaenorol? Dwi wedi ffindio rhywbeth ar Google, ond mae'r dudalen wedi hen ddiflannu (http://freespace.virgin.net/p.stead/cartref.htm).

Steve a Yahoo

Mae rhai cwestiynau 'di hyd yn oed Athro Lucasian Mathemateg Caergrawnt ddim yn gallu ateb, felly mae'n troi at Yahoo Answers.

Gwely Aer

Un o'r pethau mwyaf cwl dwi wedi weld erioed dwi'n meddwl.

Mae'r Iseldirwr Janjaap Ruijssenaars wedi dylunio gwely sy'n arnofio ar faes magnetig. Dwi'm yn gweld fi'n prynu un am dipyn gan eu bod yn €1.2 miliwn...

Flock

Flock is a free web browser that makes it easier than ever to share photos, stay up-to-date with news from your favorite sites, and search the Web.

Flock — The web browser for you and your friends

Dwi newydd lawrlwytho Flock, porwr gwe newydd sy'n ei gwneud yn haws i gysylltu efo pobl.

Mae'r neges hon yn cael ei 'sgwennu o'r browser ei hun. Dyma un o'r features sydd ar gael yn flock, i allu cadw cysylltiad yn haws.

Doedd ond angen uwcholeuo'r testun uchod, o brif dudalen Flock, yna clic-dde a dewis Blog This. Mae ffenestr yn agor yn barod i ychwanegu'r neges.

Mae Flock hefyd yn ffitio efo Flickr a del.icio.us. Mae'n bosib checio lluniau eich cysylltiadau drwy glicio botwm ar frig y porwr.

Fersiwn 0.7 (Beta) sydd allan ar hyn o bryd. Ond mae o am ddim, felly pam ddim?

Tamaid o safon

Blog eithaf diweddar i ymddangos ar y sîn CSS yw BiteSizeStandards. Blog wedi'i ddechrau gan John Oxton, gyda help eraill o'r gymuned CSS, i helpu'r rhai sydd methu treulio oriau yn dysgu safonnau newydd.

Bwriad y blog yw rhoi gwersi byr ar sut i ysgrifennu côd (X)HTML a/neu CSS. Dwi'm yn awgrymu i ddechrau dysgu yma, ond mae o'n aidial i'r un sydd wedi dysgu'r sylfeini ac am symud ymlaen.

Mae'r wers ddiweddaraf yn esbonio pwysigrwydd y tag <head>, a'r tagiau sydd yn byw yno.