Defnydd pellach o Google

Dwi'n siwr bod y rhan fwyaf o'r gymuned on-line wedi defnyddio google rhywbryd. Ond dwi ddim yn siwr pa mor boblogaidd yw defnyddio teclynau arbennig i wneud chwilio'n haws.

Rhywbeth dwi'n defnyddio pob dydd yw'r dyfynodau (""). Mae rhoi geiriau o fewn dyfynodau yn gofyn i google chwilio am y geiriau yna yn y patrwm yna. Er engraifft, mae chwilio am RSS and AJAX yn rhoi tudalen wahanol i "RSS and AJAX".

Mae'r gallu i chwilio am frawddegau penodol yn arbed llawer o amser.

Gall google gyfyngu'r chwilio i ffeiliau o un math gyda filetype:. Er engraifft, i chwilio am adroddiadau blynyddol mewn pdf, mae defnyddio annual report filetype:pdf yn rhoi canlyniadau pdfs yn unig. Mae hyn yn gweithio gyda doc, xls ayyb.

Gall google hefyd gyfyngu'r chwiliad i wefannau penodol gyda site:. Felly i ddarganfod storïau'r BBC am Esiteddfod 2006, defnyddiwch eisteddfod 2006 site:bbc.co.uk

Wrth gyfuno site: gyda dyfynodau gellir darganfod pethau lle "dwi'n siwr mod i wedi'i weld o ar y wefan...". Mae hyn hefyd yn ffordd sydd yn aml yn well na'r injan chwilio fewnol sydd ar wefan.

Ac i gloi, sut mae busnesu am ddogfennau "cyfrinachol": confidential "not for publication".

Mae google yn llawer mwy na'r disgwyl. Os wyt ti am fwy o wybodaeth, dos i dudalen gymorth google.

A Scanner Darkly

Dwi heb weld y ffilm eto, ond ddeshi ar draws rhywbeth diddorol tra'n ymchwilio am rhywbeth i'r gwaith.

Dwi fod i gael hyfforddiant ar beiriannau golygu Avid, felly y lle cyntaf eshi oedd eu gwefan swyddogol. Yna mae erthygl diddorol am y dechnoleg â ddefnyddiwyd i wneud y ffilm A Scanner Darkly.

Nid ydi o'n esbonio'r holl system o rotoscopio, ond mae'n esboniad manwl o'r technegau golygu a ddefnyddiwyd.

Gwerth i'w ddarllen i unrhywun sydd â diddordeb yng ngwneuthuriad ffilm.

Transleiddio

Dwi wedi bod yn ymchwilio am bwy neu beth sy'n gyfrifol am y Scymraeg sydd yn codi ar wefan Newyddion y BBC bob hyn a hyn, a dwi 'di ffindio pwy sy'n gyfrifol am yr esiampl ddiweddaraf.

Generator Scymraeg.

Ffurflen bost Gymraeg

Dwi wedi cyfiaethu'r ffurflen post PHP sydd ar gael gan DagonDesign.

Mae'r ffurflen hon yn un o'r rhai gorau dwi wedi weld, ac mae werth ei defnyddio os wyt ti am gynnwys ffurflen gyswllt ar wefan (sy'n defnyddio PHP wrth gwrs!).

Mae'r cyfarwyddiadau yn y ffeil dal yn y Saenseg, ond mae popeth fydd y defnyddiwr yn weld wedi'i gyfieithu.

Felly dyma hi i'r rhithfro!.

Rebekka Guðleifsdóttir


Wedi dod ar draws lluniau anhygoel Rebekka ar flickr.

Mae ei defnydd o Photoshop i wneud y lluniau Multiplicity yn gwneud i fi deimlo fel plentyn 8 oed efo MS paint.

Y Diweddar Kyffin

Darlun y ci defaid gan Kyffin Williams
Mae'r artist enwog Kyffin Williams wedi marw.

Roeddwn i'n hoff iawn o'i luniau, ond dim efo walet ddigon mawr i'w fforddio.

Eshi lawr i Gray Thomas rwan i weld os oedd y prisiau wedi cynyddu, ond doedd dim llawer o wahaniaeth ers y tro diwethaf i mi i'w weld.

Ella bod hi'n rhy gynnar.

Ond ma'r stori am y ffliwc a wthiodd o fewn i'r byd celf yn rhoi gobaith i bawb.