Vista: Windows newydd

Rhyddhawyd Vista heddiw, sef system weithredu newydd Microsoft.

Fydda i ddim yn ei brynu. Mae angen uffar o gyfrifiadur cryf i redeg y feddalwedd, a well gen i adael y RAM i chwalu apps 3D a golygu a renderio fideo na gwneud y peiriant edrych yn well. Mae eraill o'r un farn.

Fysa chdi well off efo Mac. Yn enwedig gan bo Mitchell & Webb yn gwneud y hysbysebion rwan.

I ddeud y gwir, dwi mwy ecseited am y Ubuntu newydd sydd ar y ffordd. System arall sy'n seiliedig ar Linux, bydd Ubuntu Studio yn cynnig rhaglenni golygu fideo, graffeg a sain, a hyn i gyd yn rhad ac am ddim.

Iaith leiafrifol

Fideo anhygoel ar YouTube gan silentmiow, merch ag awtistiaeth.

Mae rhan cyntaf y fideo yn ei iaith ei hun, a'r ail rhan yn cynnig esboniad.

Mae hwn wedi gwneud i fi feddwl am awtistiaeth fel wnes i ar ôl darllen The Curious Incident of the Dog in the Night Time.

Mae'r rhan cyntaf ychydig yn hir, ond werth gwrando ar mwyn cyrraedd yr ail ran.

Thema Wordpress -u -p

I'r chi sydd dal yn hoff o'r command line, dyma thema wych ar gyfer Wordpress.

CLI-10

Cyfieithyn

Mae Smashing Magazine newydd gyhoeddi eu hoff bookmarklets. Bookmarklet yw bookmark neu favourite efo tamaid o Javascript ynddo i wneud rhywbeth penodol. Ar hyn o bryd dwi'n defnyddio un i roi tudalennau yn del.icio.us.

Dechreuais amser yn ôl ar estyniad i Firefox i gyfieithu o'r Saenseg i'r Gymraeg. Mae geiriadur.net yn dda ond chydig o hasl. Yn anffodus nid ydi fy sgiliau Javascriptio ddigon cryf i allu adeiladu estyniad cyfan, ond di hacio bookmarklet ddim yn annodd.

Felly os wyt ti'n ffindio dy hun yn cyfieithu lot (fel fi), dyma ddau lyfrnodiad (?!) bydd yn handi. Mae'r cyntaf yn cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, a'r ail o'r Gymraeg i'r Saesneg.

En>Cy ac Cy>En

Llusga (drag&drop) nhw i'r bar llyfrnodau ar frig y porwr. Yna gelli unai ddewis (highlightio) y gair o'r dudalen wê a chlicio'r llyfrnodiad, neu os nad yw'r gair ar dudalen, clicia a bydd b;lwch yn gofyn am y gair. Bydd y porwr wedyn yn agor tudalen geiriadur.net efo'r cyfieithiad.

Os ti am newid y testun i rhywbeth arall, clic chwith arno a dewis Properties.

Mae 'na chydig o bethau fyswn i'n licio ychwanegu ato, ond nai sôn am rheina pan byddai wedi deall sut. Tan hynny, gobeithio gei di ddefnydd ohono. Mwynha!

Estyniad y Dydd

Dwi newydd osod hwn ar Firefox, a mae o'n briliynt.

Mae o'n creu'r un effaith pan yn newid tabs yn Firefox â sy'n digwydd pan yn rhedeg dau virtual desktop ar y Mac. Mae fideo yn deud yn well na fi:



Tab Effect

Mae angen DirectX 8 i'w redeg, felly dylir unrhyw gyfrifiadur llai na dwy oed wneud yn iawn.

Er ei olygusrwydd, dwi'n meddwl bydd o'n cael switch off yn fuan achos dwi'n hoff o sgipio tabs yn gyflym, a mae hwn yn arafu'r broses.

Cor Cyntaf i'r Felin


Ar ôl gadael i'r wefan wreiddiol bydru mewn cornel anghysbell o'r w≖c, dwi wedi'i ailwampio ac fe'i lawnsiwyd ddoe.

Mae rwan yn flog lle bydd y côr yn cyhoeddi y newyddion diweddaraf, ynghyd â fideos, Lluniau ac MP3s.

Cor Cyntaf i'r Felin

Help i Hunanladd

Os ti'n trio topio dy hun yn Mecsico, ac yn methu, mae'r heddlu yn fwy na pharod i helpu.

Comed McNaught

ffoto o gomed McNaughtFethish i weld y gomed hon pan oedd hi yn hemisffer y gogledd. Roedd i'w gweld o gwmpas machlud yr haul yn isel uwchben y gorwel yn y de-orllewin, ond roedd gormod o gymylau (sydd wedi stopio fi fynd a'r TAL allan o gwbl flwyddyn yma).

Mae hi rwan yn hemisffer y de, ac yn rhoi golygfeydd arbennig.

Dyma lun ohoni gan Kevin Crause, gyda'r gynffon yn creithio'r awyr.

Rhagor o luniau

Fideos

Tri peth o nod wedi dod i'r amlwg. Y ddau gyntaf gan Adam Buxton



Richard, Judy & Dave



McCall & Birdseye

Yr trydydd yn rhywbeth fyswn i'n licio neud, ond methu



Kitchen mixing

Lembit Grope-it

Pwy sy'n darllan PopBitch?

Lembit goes to Crystals

Thanks to his enjoyment of canvassing the female voters in the night-spots of his constituency, Montgomeryshire, Lembit Opik has earned a new nick-name - Lembit Grope-it.

The girls of Newtown's only nightclub, Crystals, have been sharing their joy that this year their MP brought the Cheeky Girls on his nights out. (Though some of them wonder what Gabriella makes of his foot fetish?)

Concept Album y Flwyddyn

Songs so emotional, they make me go weak at the sphincter.

Pet Sounds?
Majestic. Spellbinding. Intensifying. Glorious. Tear Jerker. Just a few words to describe this exquisite and well crafted album.

Dark Side of the Moon?
Were there to be but one copy remaining in the world, and had my own copy been mysteriously burned in a catastrophic fire in which I had been unable to risk my life rescuing it, I would gladly sell my children into slavery to buy that last remaining disc.

Sgt Pepper?

Naci, ond albym newydd Katie 'Jordan' Price a Peter Andre.

Mae'r dyfyniadau hyn a llawer eraill ar dudalen adolygiadau o'r albym ar wefan amazon.

Y Rhyngwe Gas

Des i ar draws stori ar wefan y BBC on i wedi cael cip ohoni ar y radio bore 'ma, sef y fideo ar YouTube o fachgen yn chwalu ffenestr yn yr ysgol.

Roedd y boi yn meddwl ei fod â hawl i falu'r ffenestr oherwydd y ffordd roedd wedi cael ei drin gan athro.

Beth oedd yn annoying oedd ymateb Chris Keates, Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT:
Unfortunately, any yob or vandal can now have their 15 minutes of fame, aided and abetted by readily accessible technology and irresponsible internet sites which enable such behaviour to be glorified.

Yr unig un anghyfrifol yma oedd yr hogyn a'i fets. Mae beio YouTube am hyn fel cyhuddo'r fricsen o gytuno i gael ei thaflu.