Sut i adeiladu Web App

Dwi wrthi'n ymchwilio sut i adeiladu rhaglen ar y wê, a un dwi wedi bod yn sbio fewn i yn benodol yw Flickr.

Dwi'n ffan mawr o Flickr ac yn ei ddefnyddio'n aml, felly roedd canolbwyntio arno'n ddewis amlwg.

Un ffynhonell amlwg am bensaerniaeth Flickr oedd y gweithdy a roddwyd gan Cal Henderson, un o brif benseiri Flickr.

Er nad oes gwybodaeth gan y dyn ei hun, mae'r blogwyr hyn yn rhoi crynodeb ddiddorol am y gweithdy:


Nid dyma'n union be o'n i'n chwilio am chwaith, ond maent werth eu darllen, os oes gen ti ddiddordeb yn y math yma o beth.

Gol: wedi darganfod copi o'r sleids a ddefnyddwyd (.pdf).

Labels: , , , ,

Casgliad



Y Bloomframe: ffordd gret o ychwanegu balconi i unrhyw dŷ. Wedi'i gynllunio gan benseiri o Amsterdam, dwi'n siwr na fydd o'n rhad.



Keyboard steampunk, i gael y teimlad 40s na pan yn blogio.

I gloi, Quintura, sef injan chwilio sy'n defnyddio cwmwl tag (tag-gwmwl? tagwmwl?) i awgrymu termau cysylltiedig. Tria fo allan.

swfIR

Chwi ddylunwyr i'r we - Llawenhewch!

Er gall HTML a CSS wneud llawer o hyfrydwch mewn porwr, mae swfIR wedi cyrraedd i'w cyfuno gyda hud a lledrith Flash a Javascript i fynd a'r pwer yna ymhellach.

Mae swfIR yn addurno delweddau ar y dudalen gyda border, cysgod, corneli crwn; yn troi'r ddelwedd ar ongl, ac hefyd yn gallu ymestyn delwedd gyda'r dudalen. Hyn i gyd heb amharu dim ar strwythur y côd na hygrydedd y ddogfen: progressive enhancement.

Gall geiriau ond gwneud hyn a hyn, felly dos i'r dudalen i weld yn union am be dwi'n siarad.

Labels: , ,

Ubuntu


Neshi allu osod Ubuntu ar y PC adra neithiwr heb ddim stress. Mae Ubuntu yn gwerthu'i hun fel system sydd yn Jyst Gweithio™, a dyna'n union wnaeth o. Doedd dim angen i mi ffidlan o gwbl, jyst agor Firefox a roedd y wê yn barod.

Doedd hi ddim wedyn yn drafferth i lawrlwytho'r updates (un glic) i gael y system yn barod, ac yna pimpio fo 'chydig gyda'r cyfarwyddiadau hyn i ymdebygu i FacAfal. Oce, ella bod o'n edrych chydig fel "OS X o Matalan" fel udodd fy ffrind Macaidd, ond llawer rhatach na Matalan, gan gostio union £00.0 i mi.

Mae werth cael y live CD oherwydd gellir ei redeg o'r CD, heb orfod gosod dim ar y ddisgen galed, a cholli'r holl stwff pwysig 'na.

Heno dwi am osod file server i allu rhannu'r lluniau a'r gerddoriaeth sydd ar y peiriant efo'r gliniadur sydd fyny grisiau, ac LAMP er mwyn i mi gael datblygu i'r we heb orfod tarfu ar fy server byw.

Dwi wedi chwarae efo Linux o'r blaen a gosod Mandriva, ond nid oedd o'n llawer o hwyl. Mae'r Ubuntu llawer gwell, ac, fel mae'r tagline yn mynd: "Linux for human beings".

Tata Bill Gates!

Labels:

Sofa King Cool

Mae hwn yn edrych fel un o'r petha na na'i ddechrau adeiladu, ond ei adael ar ei hanner ar lawr y garej am chwe mis.

Handi os 'da chi newydd brynu un o'r rhain.

Labels:

Pop

Gwnaed ymdrech ddydd Mawrth i lawnsio roced o hen blatfform olew. Roedd y roced yn cario lloeren gyfathrebu o'r Iseldiroedd.

Yn anffodus nid oedd yn llwyddiannus:






Roced yn mynd pop

Labels:

Web 2.0 neu Star Wars?

Cwis syml i weld os wyt ti'n gwybod y gwahaniaeth rhwng cwmnïau modern a threndi Web 2.0 a chymeriadau Star Wars.