Allweddfwrdd


Tria teipio hwnna mewn naw keystroke.

Dwi wedi sôn o'r blaen am Optimus, yr allweddfwrdd sy'n gallu arddangos unryhyw lythyren.

Ond, blwyddyn a mwy lawr y lon, does 'na dal ddim hyd yn oed model prawf ar gael. A gyda'r amcanbris wedi bodi o £650 i £800 mae'n anhebyg bydd y rhan fwyaf ohonom yn sblasho allan.

Felly efallai dyma'r agosaf y byddan ni at dyfais o'r fath.

Optimus.

Labels:

Camddarllen

Hollol randym ond o'n i'n teimlo bod rhaid rhannu hwn.

O'n i'n darllen am y ffilm Dangerous Men yn y G2 heddiw:
"...story of a young woman taking violent revenge on the murderous sociopaths who offered her finance has been compared to Spike Jonze."

A do'n i methu deall pam fysa pobol oedd yn sociopaths mileinig yn cynnig cymorth gyda phroblemau ariannol.

Wedi ail ddarllen daeth y gwall i'r amlwg:
the murderous sociopaths who offed her fiancé...

Sbectol?

Labels:

Hunllef

Wrth ddilyn hysbyseb ar maes-e, ddeshi ar draws gwefan Cowbois.

Be geshi oedd miwsig Caban yn blerio heb ddim ffordd i'w ddiffodd, a'r testun yn <blincio> arna i.

Nid oes rhaid dweud i mi adael yn syth...

Labels: ,

Ty Anfarwol

Neu Sut i beidio a gwerthu ty.

Ty hyfryd dwy stafell yn Cotton End Bedfordshire.

Gweler llun rhif 2...

Updet: Mae'r asiant yn amlwg wedi clicio, a newid y llun. Cael y stori o The Register wnes i, ond mae'r llun gwreiddiol dal ar eu gwefan.

Labels:

Dwi chydig yn araf efo hon, ond mi wnaeth y stori am yr holl fariwana cafodd ei ddympio ar ffarm yn Nant Ffrancon wneud i fi wenu.

Roedd y ffarmwr druan yn bryderus dros ei anifeiliad, petai nhw wedi bwyta'r gwair gwirion.

Os felly, ydi o'n poeni am yr holl fajic myshrwms mae'r gwarthaig a'r defaid yn mynshio bob blwyddyn? Sdim rhyfedd bod ganddynt lygaid fel soseri!

Gol: Diolch i Rhys am yr ysbrydoliaeth

Labels: ,

Dydd Gwyl Dewi

Dydd Gwyl Dewi hapus i ti.

O'n i'n gweld ar flog Chris bod yr e-ddeiseb wedi bod yn aflwyddiannus, er gwaethaf sylwadau Yncl Gordon.

Gwnaeth hyn i mi feddwl am be mae diwrnod i ffwrdd o'r gwaith yn golygu. 'Da ni'n gofyn am ddiwrnod o wyliau i ddathlu gwyl ein nawddsant a/neu Cymru a Chymreictod.

Ond pam bod angen diwrnod o wyliau? Fyswn i ddim yn aros adra i wisgo'r wraig mewn gwisg traddodiadol a chanu cerdd dant trwy'r dydd, gyda chawl cenin a Welsh Lam© i ginio.

Os fysa 'na wyliau heddiw fyswn i wedi deffro'n hwyr, ac ella gwneud rhywbeth yn yr ardd neu'r ty neu mynd i rhywle am dro.

Beth fuasa ti'n gwneud ar dy ddiwrnod ffwrdd? Ta ydi hyn yn frwydr symbolaidd i gael rhyw fath o recognition pellach i Gymru?