Cofis ar Tour

Hogia Rygbi dre yn Morbegno, gogledd yr Eidal ar drip rygbi.

Noethni:



Transvestitism:

Labels: , ,

Pa Bizza?

Mae hwn yn rwbath sydd wedi bod yn nocio rownd yr hen ben 'ma ers talwm, felly mae'n amser i fi neud rwbath efo fo.

Ystyried o'n i pan yn disgwyl am bizza yn y têc awe ym Mangor ucha un noson. Be fysa'r mwya? Un 12" ta dau 6"?

Be am sbio ar y maths?

Y fformiwla am arwynebedd cylch (gan gymryd yn ganiataol bod y dyfnder yr un peth) yw πr2, lle r yw'r radius.

Felly i'r 12":

π × 62

neu

π36

A dau 6":

2 × π × 32

neu

π18

Mae'n ymddangos bod un 12" ddwywaith yn fwy na dau 6". Os ti efo ffrind ac am gael un 6" yr un mewn siop bizza, ella sa'n well i chi gytuno ar topping a cael un 12".

Labels: ,

George Bush a'r Dewin

Mae George wedi mynd i weld rhai o'i ffans mwyaf yn Albania.

Dyma fideo o George yn cyfarfod y bobl yn un o'r dinasoedd. Mae'r wen ar ei wyneb yn dangos pa mor ecseited ydi o i weld pobl sy'n ei hoffi fo 'go iawn'.

Yn anffodus, mae na rai yn benderfynol o'i embarasio fo, sylwer ar oriawr George druan yn diflannu rhwng 0:50 a 1:00 mewn i'r fideo.



via youtube.

Labels:

mei.gwilym.net

Ar ôl ista arno ers amser, dwi wedi gwneud defnydd o gwilym.net.

O hyn ymlaen byddaf yn ysgrifennu pethau mwy technegol ar fy mlog newydd, mei.gwilym.net/blog.

Dwi wedi ysgrifennu rhai erthyglau yn barod (dim gwaeth na "Dwi wedi dechrau blog!" heb ddim yna) a dwi am geisio ychwanegu erthyglau yn gyson.

Dwi ar ganol cyfres o erthyglau rwan, sydd dal mewn drafft, ond byddant yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Mae'r blog yn rhedeg ar Wordpress 2.1.2 gyda'r thema Hemingway 0.19 gan Kyle Neath.

Mae o'n gyfle i mi ysgrifennu pethau fwy technegol, cyhoeddi pethau dwi wedi creu, ynghŷd â cael chwarae gyda Wordpress.

Labels: , ,

Google maps - a lluniau!

Mae di bod yn annodd osgoi'r heip ynglŷn â Google maps Street View.

Mae na lu o faniau gyda chamerau 360gradd wedi gyrru rownd San Fransisco, Las Vegas, Denver, Efrog Newydd a Miami i ddarparu golwg o'r stryd i'r mapiau sydd eisoes ar gael.

Felly dyma rhywun yn mynd a'r sbwriel allan yn SF, dynes yn croesi'r stryd yn Oakland (SF), Las Vegas Boulevard, a dyn yn dewis yr amser gwaetha posib i adael strip club.

Labels: