Blood, sweat and tears

Eshi lawr i'r garej neithiwr i ail afael yn fy mhroject i adeiladu bracket i ddal fy nghamera digidol i'r telesgop.

Cyn dechrau geshi fy nistractio gan y project arall sydd heb ei orffen, stabilizer i'r camera fideo.

Teclyn tebyg i'r steadicam dwi'n anelu at adeiladu, sy'n enwog am y tracking shots allan o'r ffilm The Shining.

Dwi bron a'i orffen, ond mae angen tweakio fo ychydig tan bydd o'n gweithio'n hollol sbot on. Nai sortio allan lluniau a fideos ar ol i fi ei orffen er mwyn cael gweld y canlyniadau.

Ta waeth, bron i fi dori fy mys bach i ffwrdd gyda'r cun.