Buff yn y Bae

Dwi wedi cael annwyd a dolur gwddwg o rwla. Basdad o beth.

Un arf i gadw fo dan reolaeth ydy'r Buff geshi pan yn eirfyrddio/sgio yn Awstria. Os nad wyt ti wedi gweld yr hysbyseb yn y siopa dringo 'ma, wel ti di cael colled. Rhyw 'climber type' (dos i Lanberis ar ddydd Sadwrn os tisho syniad gell) efo handlebar mwstash yn deutha chdi y cant a mil o ffyrdd gwahanol fedri di ddefnyddio dy byff.

Scarf, skullcap, bandana, balaclava, alice band, band gwallt (i'r genod) ayyb ad infinitum.

Highly recomended.