Ailddyfeisiad (rhan 2)

Mae'r cwch wedi'i wthio allan, ac yn awr mae'r blog ar ei newydd wedd.

Dwi wedi bod yn brysur efo Photoshop a CSS i neud o edrych 'chydig yn wahanol.

Gyda'r ailddyluniad bydd y blog yn canolbwyntio fwy ar ddylunio i'r we ayyb, a llai o falu awyr a rhegi (gobeithio).

Mi neshi symud o i meigwil.co.uk/blog, ond nid oedd y ffrwd atom yn cael ei ddiweddaru wedi gwneud hynny, felly mae o nôl ar letywr blogger.

2 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 2:15 pm  

    Gyda'r ailddyluniad bydd y blog yn canolbwyntio fwy ar ddylunio i'r we ayyb, a llai o falu awyr a rhegi (gobeithio).

    Bechod, dwi'n mwynhau'r malu awyr a'r mwydro, er edrychaf ymlaen am wybodaeth am ddylunio.
    Wyt ti wedi defnyddio template rhywun arall neu wedi ei greu/addasu dy hun?

  • Blogger Mei, 3:14 pm  

    Wel, dwi'n falch bod rhywun yn! (a dwi heb rhoi fyny'n llwyr - gweler y neges ddiweddaraf)

    Dwi wedi addasu CSS gwreiddiol Dan Cederholm (http://www.simplebits.com/work/blogger/), a gwneud delweddau fy hun.

    Dwi dal heb ei orffen, mae 'na chydig ar ol i'w newid.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.