Ailddylunio Blogger

Welish i neges ar flog Rhys ynglyn â newid templad Blogger.

Felly dyma fi'n penderfynu ysgrifennu canllaw sut i fynd ati i ffidlan efo pryd a gwedd Blogger.

Yn y rhan yma dwi'n dangos sut mae cael y ffeil ar dy gyfrifiadur yn barod i'w olygu.

Yn gyntaf dwi'n awgrymu i ti lawrlwytho meddalwedd arbennigol, i wneud dy waith yn haws. Mae'n ddigon hawdd gwneud hyn i gyd efo Notepad (dwi'n cymryd ti'n defnyddio Windoze) ond mae'n haws golygu testun pan mae o'n wahanol lliw ayyb.

HTML-Kit - mae hwn yn broject côd agored, ac yn aidial i be 'da ni isho neud. Felly lawrlwytha, gosoda ar dy fashîn a bwtia fo fyny.

O ddashboard Blogger, clicia ar enw dy flog, ac yna ar Template.

Dyma beth sydd o dan bonat dy flog (Oce, ddim cweit, ond ta waeth am hynny). Paid a bod ofn, mae'n haws na mae'n edrych.

Clicia unrhywle ar y côd i ti weld y cursor yn fflachio. Yna pwysa Control ac A ar yr un pryd, dylai'r côd cyfan gael ei dduo (highlighted). Pwysa Control a C i gopïo, yna dos allan o dy borwr (Firefox, gobeithio!) ac agor HTML-Kit. Gwna'n siwr bod yna ffeil newydd wedi'i hagor (File>New) a bod dim testun ar y sgrin (os oes, pwysa Ctrl+A yna delete) a pwysa Control a V, gludo. Dyla'r holl gôd na rwan fod ar y sgrin, ac yn lliwiau'r enfys diolch i HTML-Kit. Os na darllena'r camau fwy ofalus.

Mae be ti'n weld o dy flaen yn gymysgedd o gôd HTML a CSS. Gan mai newid y pryd a gwedd byddwn ni yn unig, byddai'n canolbwyntio ar y CSS. Mae'n ymddangos yn agos i frig y dudalen, yn syth wedi'r tag <style type="text/css">. Mae fel arfer yn dechrau gyda rhywbeth fel
/*
-----------------------------------------------
Blogger Template Style
Name: Minima Black
Designer: Douglas Bowman
URL: www.stopdesign.com
Date: 26 Feb 2004
----------------------------------------------- */
Rwan, tisho cadw dwn a dileu poeth arall. Forrd gyfleus o wneud hyn: dua'r CSS i gyd, Control ac X, Control ac A, delete, Control a V. Dim ond y CSS dyla fod ar y sgrin.

Iaith yw CSS sydd yn fformatio dogfennau. Gellir ei defnyddio gyda nifer o ieithoedd gwahanol, ac nid ond HTML yn unig. Mae CSS yn rhoi cig a gwaed ar esgyrn HTML.

Yn yr achos hwn mae'r CSS yn inline, neu'n gynnwysiedig yn y ddogfen. Mae'n posib i lincio i ffeil CSS allanol, sy'n gwneud hi'n haws i olygu, ond mi wnai adael hwnna tan y diwedd. Dwi'n awgrymu'n gry os oes gen ti le ar y we i gadw ffeil CSS a chydig o jpgs neu gifs, dyma'r ffordd ymlaen.

Felly cadwa'r ffeil ar dy ddisgen galed, gyda'r estyniad .css.

Tro nesaf byddai'n esbonio sut mae mynd ati i newid y steiliau i bersonoli dy flog.

Technorati:
, , .

1 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 9:11 am  

    Cŵl, dwi'n edrych ymlaen i ddarllen mwy am hyn. Mae na sawl blogiwr credig yn cynnig patrymluniau am ddim sy'n wahanol i be mae Blogger yn ei gynnig, ond byddai'n braf cael gwybod sut mae gwneud newidiadau penodol.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.