Teklyn kool Kuler

Mae Adobe Labs wedi rhyddhau dyfais glyfar i gynorthwyo dylunio cynllun lliw.

Mae Kuler wedi'i adeiladu yn Flash, ac mae posib creu thema drwy ddewis un lliw, ac yna dewis rheol: Analogous, Monochromatic, Triad, Complimentary, Compound a Shades. Bydd Kuler yna'n cynhyrchu'r lliwiau eraill i gyd fynd a'ch gwreiddiol.

Wedi dewis lliw a rheol, mae posib wedyn i wneud newidiadau i'r rheol er mwyn cael thema union. Ac os nad ydi un o'r rheolau'n plesio, mae'n bosib gwneud rheol bersonol.

I gadw popeth yn Web 2.0aidd mae posib cadw'ch cynllun lliw, ei rannu a edrych ar gynlluniau mae eraill wedi'u cynhyrchu. Bydd rhaid cael cyfrif â Adobe i wneud hyn.

O'n i'n arfer defnyddio Color Schemer Online, ond Kuler fyddai yn mynd at tro nesaf.

1 Sylw:

  • Blogger Huw, 6:52 pm  

    Diddorol, a gwefan defnyddiol!

    Gwefan arall, sydd hefyd yn gneud colour swatches ar luniau o URL neu wedi ei fynylwytho yw colr

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.