Firefox i'r ffon

Firefox ar Ffôn

Gyda mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r wê drwy eu ffônau symudol, mae Mozilla wedi cyhoeddi eu bod yn datblygu fersiwn o Firefox Mobile.

Mae Opera eisoes yn cynnig porwr i ddyfeisiadau symudol, sydd yn un o'r porwyr gorau i'r sgrin fach.

Mae datblygiadau fel hyn hefyd yn dangos pa mor bwysig yw dylunio gwefannau i safonnau modern. Mae gwefan sy'n defnyddio CSS yn mynd i edrych yn well a lawrlwytho'n gyflymach na gwefan sydd dal i ddefnyddio tables a tagiau font.

Mae hefyd yn dod i'r amlwg mae'r ffôn bydd cyfrifiadur pawb.

(Mae sibrydion bod Google yn lawnsio ffôn symudol rhad ac am ddim [yr iPhone laddwr]. Bydd y ffôn yn defnyddio meddalwedd côd agored, ac yn dod gyda nifer o raglenni.)

Labels: ,