Firefox 3

Mae'r fersiwn hir-ddisgwyliedig o'r porwr allan rwan.

Dwi wedi'i lawrlwytho i'r cyfrifiadur yn gwaith ac i'r system Ubuntu adra, a mae o yn gret.

Dwi wedi bod yn cael trafferth mawr gyda memory leakage tra'n defnydido Gmail, ond gobeithio bod y problemau hyny wedi'i ddatrys rwan.

Yn ogystal a gwell perfformiad, dyma 'chydig o'r nodweddion newydd:


  • Yr 'Awesome Bar', neu'r bar cyfeiriad newydd, sy'n cofio lle ti di bod ac yn gallu chwilio yn dy hanes pori am y tudalennau ti wedi ymweld â, hyd yn oed os ti'm yn cofio'r union gyfeiriad.

  • Llyfrnodi neu gadw >favourites gyda un clic

  • Systemau diogelwch sy'n rhybuddio os ti'n mynd i dudalennau amheus

  • Ysgrifen rhy fach? Gellir chwyddo'r dudalen i arbed straen ar y llygaid



Felly, am be ti'n disgwyl? Lawrlwytho Firefox 3.

Labels:

3 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 10:39 am  

    Dwi'n licio'r opsiwn i gofio pa dabiau sydd ar agor ar gyfer y tro nesaf ti'n ail-ddechrau'r porwr.
    (roedd hyn yn digwydd gyda'r hen fersiwn os digwydd iddo grasio, oedd yn handi)

  • Blogger Rhys Wynne, 9:48 am  

    O ia, mae dy ddolen lawrlwytho di'n cyfeirio at fersiwn en-US. Nes i'r fersiwn Cymraeg gael ei gwbwlhau (dylwn i gynnnig helpu sbo), dwi am fynd am en-GB.

  • Blogger Mei, 1:35 pm  

    Roedd y linc en-GB yn mynd ymlaen i en-US pan neshi rhoi o fyny.

    Wedi'i newid rwan :-)

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.