Streic y BBC

Dwi wastad yn gwylio Breakfast ar y BBC cyn mynd i'r gwaith yn y bore (ar ol i'r wraig orffen gwylio GMTV).

Felly do'n i methu dallt pam roedd Simon le Bon a Nick Rhodes o Duran Duran ar Hardtalk am 9.00 bore 'ma, yn hytrach na Bill Turnbull a Natasha Kaplinsky (a hefyd pam oedd Dai Jones ar Radio Cymru am 9.05am).

Ond wrth gwrs mae staff a newyddiadurwyr Auntie wedi penderfynu streicio i brotestio yn erbyn y toriadau mewn staff sydd wedi'u addo.

Da iawn meddwn i.