Rhaid cael un

Allweddfwrdd Optimus.

Mae allweddfyrddau sydd â'r llythrenau wedi'u printio yn old hat. Mae'r Optimus yn defnyddio golau, felly gellir ei setio i ddangos controls unrhyw raglen sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Dwi ddim yn dda iawn yn esbonio felly dos i sbio i ddallt.

Iawn? Gan fod hwn yn Gôd Agored, gellir ei newid i unrhyw ddefnydd. Felly buasai allweddi i'r llythrennau Ch, Dd, Ff ayyb ar gael.

Da ia?

Dim ond angen confinsio y hi bod wir angen un arna fi sydd i'w wneud rwan...

1 Sylw:

  • Blogger Nwdls, 8:09 pm  

    Oh Good Lord!

    Ma hwnna'n ddarn secsi o kit. Dim rhagor o ffafian efo alt+226 = â na hitio'r blydi ; yn lle ' .

    A ma'n edrych yn wych wrth gwrs...

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.