Style Switcher

Dwi wedi ychwanegu ail steil at y blog. Dim byd ofnadwy o ecsaiting, jyst fi oedd yn bôrd neithiwr ac efo chydig o oriau i wastraffu.

Yn yr bar ochr, o dan Pryd a Gwedd, mae'r dewis o ddau steil. Y gwreiddiol (yr un coch efo bybls) a'r un newydd, sydd debyg i hen babur newydd.

Clcia ar ba bynnag un ti'n licio ora, bydd 'na gwci ar dy gyfrifiadur i gofio ercyn y tro nesaf.

Geshi'r syniad dylunio gan y dyluniwr Cameron Moll, a'r javascript gan Paul Sowden ar A List Apart (diolch!).

Dwi'n gobeithio ychwanegu un arall un fuan (mae'r graffeg wedi'i neud, 'mond angen gorffen y style sheet).