Statistics Web 2.0

Erthygl diddorol yn adran dechnoleg y Guardian am y nifer o bobl sy'n darllen, defnyddio ac creu cynnwys i applications Web 2.0.

1 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 1:49 pm  

    Hmm, allai gydfynd a'r ffigyrau. Dwi di dechrau blog o'r enw Dysgwyr De Ddwyrain ac mae bron yn 2 flwydd oed. Dwi'n ceisio ei wthio cymaint â phosib fel dull ar gyfer dysgwyr ddod o hyd i gyfleoedd i ymarfer eu Cymraeg (boed ar-lien neu yn y byd go iawn) pan nad ydynt yn nabod siaradwyr Cymraeg eraill tu allan i'r dosbarth.

    Y bwriad oedd cael pobl i gyfrannu digwyddiadau/storiau os yn bosib fel 'gohebwyr lleol' unai os ydynt yn diwtoriaid neu'n ddysgwyr. Mae un neu ddau yn danfon pethau ataf ond fi sy'n gyfrifol am 95%+ o gynnwys y safle a phrin iawn yw'r sylwdau arno, ond eto yn ôl yr ystadegau mae na criw o fobl ar draws y de o ardal Caerdydd, RhCT a Mynnwy yn ymweld yn gyson (ac ambell un o'r UDA) a phan dwi'n mynychu rhai digwyddiadau dysgwyr, mae ambell un yn dweud "o ia, chi'n gyfrifol am y blog yna?"

    Dwi'n teimlo'n euog rwan am beidio cyfrannu at wicipedia/wikipedia gan mod i'n defnyddio'r ddau'n gyson.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.