Well, you better wake him up...

Os na 'da chi'n gallu fforddio Photoshop, neu cael methu cael eich crafangau ar gopi mor-leidr, un opsiwn ar gael yw'r GIMP.

Mae'r GIMP yn raglen côd agored sy'n gallu neud lot 'ma Photoshop yn neud (ond dim popeth!).

Ac un peth dwi wedi gweld yn aml yw blogs yn defnyddio thema Kubrick, ond wedi swopio'r ddelwedd ar frig y blog efo un eu hunain. Does gen i ddim problem efo hyn, ond nid ydy o'n blendio fewn efo gweddill y dyluniad yn dda iawn, felly dyma fy nghyfarwyddiadau i ar sut i wneud hyn mewn ffordd well.

Yn amlwg, rhaid lawrlwytho a gosod GIMP ar eich cyfrifiadur (ac mae angen gosod Java Runtime ar eich cyfrifiadur hefyd). Gellir cael cyfarwyddiadau manylach ar y wefan.

Wedi agor GIMP, mynd i File>Open ac agor y ddelwedd kubrickheader.jpg.

Yna agor y ddelwedd hoffech chi roi fewn yn lle'r gwreiddiol.

Yn y pallette 'Layers', dylai fod gyda un layer (yn amlwg) sef y ddelwedd wreiddiol*.

Clicia ar 'Duplicate Layer', a bydd gen ti ddau layer debyg. Llusga'r Background gwreiddiol i'r bin, does dim ei angen dim mwy. Clicia ar New Layer, a llusga'r layer yma i waelod y stack. Dylai'r Pallette Layers edrych rhywbeth fel hyn.

Ym mhrif pallette y GIMP, dewisa'r Magic Wand (neu Select Contigous Regions), a gwna'n siwr bod y Threshold (ar waelod y pallette) yn 30. Clicia ar layer y ddelwedd, a clicia ar rhan glas y ddelwedd. Dylai'r morgrug fartsio o gwmpas y rhan glas.

Pwysa Control+K i glirio'r lliw**. Dylai'r glas ddiflannu. Os na, dos yn ôl i'r cychwyn a checia ti di neud bob dim yn iawn.

Agora y ddelwedd arall, pwysa Control+A yna Control+c i ddewis y ddelwedd gyfan. Dos yn ôl i'r ddelwedd wreiddiol, a dewisa'r Layer newydd (wnest ti greu yn y drydedd gam). Pwysa Control+V i gopïo'r dy ddelwedd di i'r ddelwedd Kubrick.

Os di popeth yn iawn, dylai ti weld dy ddelwedd o dan ffram Kubrick. Os dio'n rhy fawr, bydd raid i ti newid maint y llun gwreiddiol (Image>Scale Image).

I orffen dos i File>Save As. Yna lanlwytha'r ddelwedd efo dy hoff gleient ftp.

A dyna ni. Gei di deimlo'n smyg rwan pan yn edrych ar flogs eraill sydd heb wneud hyn. Rhowch unrhyw gwestiynau yn y sylwadau.

*Mae layers yn gweithio fel sheets o blastig, tebyg i'r stwff na oedd athrawon yn defnyddio cyn projectors digidol efo OHPs.

**Mae dal chydig o'r glas ar ôl. Gellir cael gwared arno gyda Zoom ac Erase