Dylunio a CSS

Mae un o'r dylunwyr gwe enwocaf, Andy Clarke, wedi rhyddhau ei lyfr cyntaf, Transcending CSS: The Fine Art of Web Design.
Gan bod gymaint o lyfrau technegol i helpu gyda dysgu CSS ar gael, Mae Andy wedi creu llawlyfr i'r dylunydd creadigol hwnnw sydd heb y sgiliau i ysgrifennu côd, ond sydd am greu campweithiau heb adael i'r diffyg gwybodaeth amharu ar y dyluniad terfynol.
O Loegr yn wreiddiol, mae Andy yn byw a gweithio ger Y Rhyl. Mae'n rhedeg y cwmni dylunio Stuff and Nonsense (a ddyluniodd gwefan Tractors Emyr Evans!), yn cadw'r blog poblogaidd And All That Malarkey, ac yn siarad am CSS a Dylunio mewn cynhadleddau dros y byd.
2 Sylw:
Diddorol Mei. Wyt ti'n gweld darlunwyr (rhai sydd heb llawer o brofiad yn ysgrifennu côd) yn defnyddio llyfrau fel hyn i symud i ffwrdd o greu tudalennau gan ddefnyddio Flash? h.y. ai amcan y llyfr yw i ddenu pobl i ffwrdd o Flash? Neu oes na le i'r ddau dull cyd-fyw?
o.n. hoffi enw dy flog gyda llaw!
Gwd point.
Dwi'n meddwl ei fod i i'r sawl sydd dal i ddefnyddio <tables> i reoli layout, a sy'n amheus o CSS oherwydd nad ydy o'n cynnig yr un faint o reolaeth.
O ran Flash, mae'r gwefannau gorau yn cynnig cynllunio ffantastig a rhyngweithioldeb gwych, felly dwi'n meddwl bod angen meistrioli dylunio a côdio i fod yn Flash Jedi.
Clicia i ychwanegu sylw.
I'r dudalen flaen.