Vista: Windows newydd

Rhyddhawyd Vista heddiw, sef system weithredu newydd Microsoft.

Fydda i ddim yn ei brynu. Mae angen uffar o gyfrifiadur cryf i redeg y feddalwedd, a well gen i adael y RAM i chwalu apps 3D a golygu a renderio fideo na gwneud y peiriant edrych yn well. Mae eraill o'r un farn.

Fysa chdi well off efo Mac. Yn enwedig gan bo Mitchell & Webb yn gwneud y hysbysebion rwan.

I ddeud y gwir, dwi mwy ecseited am y Ubuntu newydd sydd ar y ffordd. System arall sy'n seiliedig ar Linux, bydd Ubuntu Studio yn cynnig rhaglenni golygu fideo, graffeg a sain, a hyn i gyd yn rhad ac am ddim.