Cyfieithyn

Mae Smashing Magazine newydd gyhoeddi eu hoff bookmarklets. Bookmarklet yw bookmark neu favourite efo tamaid o Javascript ynddo i wneud rhywbeth penodol. Ar hyn o bryd dwi'n defnyddio un i roi tudalennau yn del.icio.us.

Dechreuais amser yn ôl ar estyniad i Firefox i gyfieithu o'r Saenseg i'r Gymraeg. Mae geiriadur.net yn dda ond chydig o hasl. Yn anffodus nid ydi fy sgiliau Javascriptio ddigon cryf i allu adeiladu estyniad cyfan, ond di hacio bookmarklet ddim yn annodd.

Felly os wyt ti'n ffindio dy hun yn cyfieithu lot (fel fi), dyma ddau lyfrnodiad (?!) bydd yn handi. Mae'r cyntaf yn cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, a'r ail o'r Gymraeg i'r Saesneg.

En>Cy ac Cy>En

Llusga (drag&drop) nhw i'r bar llyfrnodau ar frig y porwr. Yna gelli unai ddewis (highlightio) y gair o'r dudalen wê a chlicio'r llyfrnodiad, neu os nad yw'r gair ar dudalen, clicia a bydd b;lwch yn gofyn am y gair. Bydd y porwr wedyn yn agor tudalen geiriadur.net efo'r cyfieithiad.

Os ti am newid y testun i rhywbeth arall, clic chwith arno a dewis Properties.

Mae 'na chydig o bethau fyswn i'n licio ychwanegu ato, ond nai sôn am rheina pan byddai wedi deall sut. Tan hynny, gobeithio gei di ddefnydd ohono. Mwynha!

5 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 2:32 pm  

    dwi gyda geiriadur.net, Eurfa, a Chronfa Terminoleg TG y Bwrdd fel shortcuts ar fy mhorwr. Geiriadur.net yw'r un anoddaf i'w ddefnyddio gan bod angen mynd yn ôl o hyd i'r dudalen flaen.

    Tydi'r ddau llyfnod ddim yn gweithio i fi. Pan dwi'n ceisio defnyddio'r un Cymraeg, mae'n dod a neges:
    "Heb ganfod gweinydd
    Nid yw Firefox yn gallu canfod y gweinydd yn www.geiriadur.net.", er bod cyfeiriad geiriadur.net i'w weld yn y bar cyfeiriad.

    Pan dwi'n defnyddio'r En>Cy, dwi'n cael fy nghyferio i'r tudalen yma:
    http://labsopa.dis.ulpgc.es/prog_c/ !

    Syniad da ddo

  • Blogger Mei, 3:16 pm  

    Rhyfedd.

    Dwi wedi ail checio'r côd, ac drag&drop o blogger hefyd, a mae o'n gweithio'n iawn.

    Dwi'm yn saff sut mae D&D yn IE6, ond mae o'n gweithio o'r dudalen.

    Efallai bod y server lawr tra wnesti ti drio'r cyntaf. Ond Duw â wyr sut esti i'r dudalen arall na.

    Ai Firefox 1.5 ti'n ddefnyddio. Dwi'n defnyddio 2.0.0.1 ar hyn o bryd.

  • Blogger Unknown, 10:41 am  

    Wedi uwchraddio i FF2 ac mae'n gweithio i'r dim (er bu rhaid fi ddileu ac ailosod 'En>Cy' yn gyntaf am ryw reswm).

    Diolch

    (hefyd, dwi newydd sylwi nad yw Geiriadur.net yn hoffi 'to bach' - os dwi'n chwilio am gyfieithiad Saeseng o 'tŷ', dio ddim yn dallt, ond mae'n rhoi cyfieithiad o 'ty' dim problem)

  • Blogger Rhys Wynne, 2:28 pm  

    Fi (Rhys) adawodd y neges diwethaf. Ddim yn siwr pan ddaeth fyny fel 'Cochion'!

  • Blogger Mei, 9:57 pm  

    Reit dda. Gobeithio cei ddefnydd ohono.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.