Pot

Neshi fethu'r rhaglen, ond roedd erthygl diddorol ar wefan y BBC am ffilm Panorama nos Sul. 'Canabis: What every teenager should know' oedd enw'r rhaglen, ac roedd yr erthygl yn siarad gyda tad boi oedd wedi cael schizophrenia oherwydd ei fod yn smocio gormod o gêr.

Ma' na lot yn deud 'i fod o'n ddiniwed, ac yn gwneud dim drwg, ond dwi'n gwybod o brofiad personol nad ydy o yn hollol harmles. Mae dau foi o'n i'n nabod wedi bod i'r ward iechyd meddwl leol gyda bouts o schizophrenia.

Mae o'n annoyio fi pan dwi'n clywed pobol ifanc yn mynd on ac on am pa mor saff ydi weed ayyb, pan does gyna nhw'm cliw am betha fel hyn.

'Chydig o hwyl ar ddiwedd nos Sadwrn ella, ond pan ti'n smocio bob dydd dio'n neud dim lles.