Css and all that

Wedi ail gydio yn y busnas dylunio i'r we 'ma. Dwi wedi bod yn segur yn y maes hwn yn ddiweddar, ond rwan mae'r byg wedi ei ddal unwaith yn rhagor a dwi am fynd amdani tro ma.

Dwi wedi bod yn ffidlan efo ffeiliau CSS gwefannau eraill i ddod i ddeall, ac wedi ail ddylunio gwefan y clwb gan ddefnyddio CSS yn unig (yn lle'r fframiau a'r <font> tags felltith na) fel ymarfer.

Felly dwi wedi dechrau ail ddylunio o scratch gwefan y côr. Dwi'n canu (tenor) i Gôr Cyntaf i'r Felin, ac yn (trio) rhedeg y wefan. Dwi wedi bod yn ddiog yn ddiweddar, ac mae angen ei diweddaru gyda gwybodaeth am berfformiadau'r côr ayyb, ond yn fwy na hynny mae'n defnyddio table layout gyda inline frames i arddangos y dudalen.

Wel, i'r rhai in the know mae hyn yn anathema i'r ffordd newydd o ddylunio i'r we, felly dwi'n benderfynol o'i hadnewyddu i fftio mewn gyda safonnau newydd.

So dwi 'di bod yn hamro'r nifer o wefannau sydd allan yna yn helpu gyda dylunio gyda CSS.

Pick of the bunch yw'r rhain
Oce, blog yw'r un olaf, ond mae'n cael ei ysgrifennu gan Andy Clarke, sy'n rhedeg y cwmni dylunio rhyngwladol malarkey.com (sydd yn seiliedig yn Abergele, o bob man!).

A dyma rai ddyla fi ddarllen mwy ohonynt:
Eniwe, dwi'n gobeithio cael y wefan newydd ar-lein yn y diwrnodau nesa' ma. Ond dwi'n meddwl bydd codio'r CSS yn llawer haws na sortio'r mes o weddill y safwe, sydd am gymryd hydoedd.

(ac yna, wedi gorffen hyn, rwyf am gymryd drosodd y byd! Mwhwhahaha!!)