U turn syfrdanol

Wedi bod yn darllen tudalennau newyddion y BBC eto.

Mae hyn yn newid mawr mewn meddylfryd rhywun yn fy marn i.

Hwn oedd y boi (oce, Representative Republican) wnaeth wneud y penderfyniad xenophobic i newid enw 'French Fries' i 'Freedom Fries' (a hynny ar ol i Ffrainc wneud gymaint i'r UDA). Rwan mae o'n penderfynu nid yn unig i dynnu'r milwyr allan, ond hefyd bod y rhyfel yn anghywir oherwydd:
I just feel that the reason of going in for weapons of mass destruction, the ability of the Iraqis to make a nuclear weapon, that's all been proven that it was never there.
Geiriau mawr.