Pyb Golff

Rioed di chwara hwn? Neith o ffycio chdi drosodd go iawn am ddiwrnod neu ddau.

Roedd hi'n benblwydd ar fy nghefnder yn 19 nos Iau. Yn Rummer's dyma fi'n digwydd son iddo am Pyb Golff, y gem yfad dwi wedi chwarae yng Nghaernarfon unwaith neu ddwy.

Pan landiodd ei fets, mi gymrodd o'r syniad o ddifri a cael pawb i gytuno i chwarae.

Felly roedd raid i fi wneud score-card ac off a ni.

Rheolau:

1. Mae angen score-card tebyg i hyn:














EnwGoat Major /3Floyd's /4Model Inn /3City Arms /2Yates /4Zync /3
Mei





Ianto





Nedw







2. Un diod ym mhob tafarn (hannar lagyr yn ddigon...trystia fi).

Y Par yw'r rhif wrth enw'r dafarn.

Amcan y gem yw trio yfad pob diod mewn cyn lleied o swigs a phosib. Caiff y nifer ei nodi yn y bocs, a'r sgor ei adio ar y diwedd. Pwy bynnag sy'n cael y lleia o dan par sy'n curo (hence pyb golff! Geddit!)

Wrth gwrs does neb yn gallu darllen ar ol y nawfed tafarn, heb son am gadw sgor/gweld pwy sy'n curo, ond dim dyna di'r point.

Dwi wedi gweld rhai'n chwarae'r gem hon mewn ffordd anghystadleuol, h.y. yfed fel normal a sgorio ~ 10-11-12 ymhob pyb. Yn bersonol dwi'n mynd amdani a clec i'r hannar mewn un.

Suffice to say, oeddan ni gyd yn hollol lysh gachu, a'ng nghefnder i'n falch bo fi wedi mynnu chwarae efo hannars a dim peintia' neu "fysa ni wedi bod yn sbyty".

Dwi'm yn cofio dim ar ol 11.30. Aeth y gweddill i rhyw gay pyb a tynnu ar lesbians wnaeth ddechra lluchio poteli, ond stori arall yw honno.