Cyfarchion o Falaysia!

Dwi'n Kuala Lumpur am fis efo'r cwrs 'ma, yn dysgu am rhyngweithioldeb (interactivity?) gyda'r bobl hoffus yn Lim Kok Wing a Mygo.

Eshi i barti Blwyddyn Newydd Cheiniaidd dydd Llun, a yfad lagyr a chwara cardia efo'r hogia. Geshi hefyd y fraint amheus o gael bwyta sgwid amrwd efo saws Hoi Sin. Gofynnon nhw i ni ganu, ond roedd hi ond yn 5.00 o'r gloch ac o'n i ond wedi cael 10 can bach, felly dim y tro yna. Ella cyn i ni fynd adra.

Dwi wedi bod yn reit brysur yn ystod y dydd gyda'r cwrs, ac felly heb gael llawer o liw haul, ond 'da ni am fynd i weld yr wyl Hindwaidd Thaipusam yn yr Ogofau Batu dydd Sadwrn felly ella fyddai'n frownach wedi hynny. Thaipusam ydi'r un lle ma' nhw'n sticio darnau o fetal yn eu cyrff er mwyn dangos eu ymroddiad i'r ffydd. Nyts. Dwi'n mynd a camera gyda fi felly gobeithio caf i luniau ar Flickr erbyn nos Sul (mae 'na luniau fyny eisoes yma: www.flickr.com/photos/alicerothwell/).

Eniwe, rhaid i fi fynd i neud yn siwr bod i dal yn 34 gradd tu allan!