Zen vs iPod

Mae Creative wedi penderfynu cymryd achos yn erbyn Apple am ripio ffwrdd User Interface y Creative Zen, a'i ddefnyddio ar yr iPod a'r iPod mini.

Roedd Creative wedi ffeilio patent am eu UI yn ôl yn 2000, ac Apple yn dilyn yn 2001 am eu UI nhw. Cafodd hwn eu wrthod, ac o'r diwedd mae Creative yn sefyll fyny dros eu hunain.

Be' dwi'n gweld yn eironig ydi'r ffaith bod dyfais uwchradd yn gorfod gwneud hyn. Mae gen i Creative Zen 1Gb, a fydwn i'n sicr ddim yn ei newid am iPod. Pam? Dyma restr o allu'r ddau chwaraeydd MP3:

iPod

  • Chwarae ffeiliau mp3

  • System gwarchod hawliau sy'n golygu gallwch ond defnyddio 3 dyfais i chwarae eich gerddoriaeth

  • Ymm...

  • Dyna ni


Creative Zen

  • Chwarae ffeiliau mp3

  • Chwarae ffeiliau wma

  • Gallu cadw unrhyw fath o ffeiliau arno (fel USB drive)

  • Radio fm

  • Recordydd llais

  • Encodio mp3 (gallwch chwarae CD yn syth mewn i'r chwaraeydd, yn hytrach na defnyddio cyfrifiadur)

  • Dim system gwarchod hawliau, gai chwarae fy CDs ar unrhywbeth dwi blydi wel isho


Nîd ai sei môr?

Mwy am y stori.