Siarad Saesneg yn Gymraeg

Rhywbeth dwi'n clywed yn aml ydi pobl yn siarad Saesneg ond efo gramadeg Cymraeg, a mae o wastad yn ticlo fi.

Heddiw:
We're a company in Caernarfon we are


Sef:
Cwmni o Gaernarfon yda ni


Ma na lwyth o esiamplau eraill ond hwnna 'di un o'r rhai mwyaf cyffredin.

Wrth gwrs does na ddim posib i bopeth weithio. Dwn im os oes 'na eraill yn deud o, ond mae'n gyffredin i blant rownd ffor'ma ddeud, ar ôl anaf (gan bwyntio at eu coes/braich/cefn ayyb):
Ma' fama fi'n brifo


Neu:
My here hurts


Ddim cweit yr un peth...