Prysurdeb

Dwi 'di bod yn brysur uffernol yn ddiweddar efo gwaith, felly does dim blogio wedi bod ers dros wythnos.

Ta waeth.

Dwi'n disgwyl ymlaen i ddarllen Dim Lol yn yr Eisteddfod dan olygyddiaeth Diamond Ray Diota. O faint dwi'n ei nabod dyla na fod lot o hwyl.

O'n i'n gwrando ar Today bora 'ma, a Tony Blair a George Bush yn ymddiheuro am bethau dyla' nhw wedi'u gwneud yn well. Roedd o'n ddoniol clywed Bush yn sôn bod ei agwedd John Waynaidd yn cael ei gamgymryd gan rai. Mae'n ryfeddod bod Arlywydd sydd wedi bod yn dal y swydd ers dros pum mlynedd yn sylweddoli rhywbeth mor sylfaenol ac elfenol a hyn wedi cyhyd yn y swydd.

Ac roedd gan Blair y chîc i alw ar fwy o bwerau i'r Cenhedloedd Unedig, i allu cadw fwy o drefn ar wleddydd fel Iran. Mae hyn gan y person wnaeth dori cyfraith rhyngwladol yn ymosod ar wledydd oherwydd be roedd Arlywydd yr UDA yn deud, felly dwi'n cytuno'n llwyr ag o.

Dwi off i Ruthun am wythnos efo gwaith.

Dwi'n gobeithio pigo'i fyny ar y gyfres CSS yn fuan hefyd. Ga'i weld pa mor brysur bydda'i yr wythnos nesaf.