Internet Explorer 7

Mae MS wedi cyhoeddi eu gwelliannau i ochr CSS o'u porwr newydd, IE 7.

Dwi'n bell o fod yn arbennigwr ar y bygs sydd yn IE 6 i lawr, ond o be dwi'n weld mae'r gwelliannau yn edrych yn addawol. Bydd rhain yn caniatau i ddatblygwyr tudalennau gwê ddefnyddio llawer mwy o dechnegau CSS yn eu tudalennau.

Ond mae nifer o broblemau yn codi o'r herwydd. Mae llawer o ddatblygwyr yn ecsploitio'r bygs hyn i orfodi IE i wneud be' mae nhw isho. Heb y bygs hyn, bydd nifer o wefannau yn tori lawr, sy'n golygu lot o waith i ddatblygwyr i ail sgwennu'r CSS*.

Ac un cwestiwn sydd gennyf yw sut mae MS yn bwriadu gosod IE 7 ar y cyfrifaduron hyn sy'n defnyddio IE 6? Fydd o'n opsiynol, neu a fydd yn rhan o'r Windoze Updates?

Os na fydd y defnyddwyr IE presennol yn ei ddefnyddio, bydd hyn ddim yn gwneud gwahaniaeth.

Ta waeth, dwi'n falch i weld bod MS yn ymdrechu i wneud y we yn le gwell, a bydd syrffwyr yn cael mwy allan o'u tudalennau.
*Yn bersonol, dwi wedi bod yn defnyddio Conditional Comments i fwydo CSS arbennig i IE, felly dwi'n osgoi hyn.