Wedi'r wyl

Mae'r wythnos drosodd, a dwi'n barod i fynd adra. Yn anffodus dwi dal yn gweithio heddiw, ac mi fydd hi'n fory pan wela'i Felinheli eto.

Er hynny mae di bod yn wythnos dda. Ma gwaith wedi bod yn drwm, ond dwi wedi mwynhau pob munud. Geshi rhoi wyneb i'r picsel yn y blog.gwrdd/steddfod06, ond yn anffodus geshi'm cyfle i siarad a phawb o'n i wedi bwriadu. Ta waeth, bydd digon o gyfle yn y dyfodol.

Un peth â groesodd fy meddwl heddiw (tra'n sbio ar ddarn am y gadair) oedd nad oes 'na un (o be dwi'n wbod) blog am gynganheddu. Oes 'na rhywun yn gwbod am un. Dwi eisoes yn ymwybodol o'r annedd, ond fyswn i'n licio gweld blog gyda gwersi cynghanedd ayyb.

Unrhywun?