Termau newydd

Dwi wrthi'n cyfieithu darn o feddalwedd côd agored yn y gwaith, a dwi'n meddwl mod i wedi bathu term newydd.

Tra'n ystyried 'Spam Protection' meddyliais am y term yma:
Sbamddiffyn


Be 'da chi'n feddwl? Oes 'na rhywun 'di clywad o o'r blaen? Dwi wedi gwglio a daeth dim i fyny.

Os na: Sbamddiffyn©Mei Gwilym 2006.

Gol: 19:05 - Sbamddifyn. Diolch Nwdls!

4 Sylw:

  • Blogger Nwdls, 3:11 pm  

    Edrych felly. Da 'di bathu geiriau. Gai awgrymu un peth?

    Sbamddiffyn?

    Yn ôl y geiriadur termau Sbam yw'r gair Cymraeg. Roeddwn i'n meddwl fod yna air arall hefyd, ond yn amlwg mae sbam wedice lei dderbyn erbyn hyn.

  • Blogger Rhys Wynne, 4:10 pm  

    Swnio dipyn gwell na Diogleu Sbam

  • Blogger Mei, 7:08 pm  

    Gwd point.

    Sbamddiffyn it is.

  • Blogger Nwdls, 9:47 pm  

    Newydd gofio be di'r gair arall: "sgrwtsh" ma nhw'n ddefnyddio ar feddalwedd Thunderbird Cymraeg.

    Ond edrych fel taw sbam ennillodd y frwydr. Debyg fod spam wedi ei blannu'n rhy ddwfn yn yr ymwybyddiaeth gyun fel gair erbyn hyn.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.