Mwy o stress i Microsoft

Rhyddhawyd Internet Explorer fersiwn 7 yn ddiweddar gan Micro$oft.

Roedd hwn fod i fynd efo Vista yn 2007, ond gyda llwyddiant Firefox ac Opera et al yn cynyddu roedd criw Redmond wedi gwthio'r dyddiad ymlaen.

Mae'r porwr wedi'i wella ers IE6, gyda gwell triniaeth o CSS (felly mae gwefannau yn arddangos yn well) a hefyd yn cynnwys tabiau ac yn y blaen.

Nid ydw i wedi'i ddefnyddio eto (rhaid i fi gadw IE6 ar fy nghyfrifiadur er mwyn profi gwefannau) ond nid ydi'r clod wedi bod yn uchel.

Mae nifer yn dweud bod Microsoft wedi gwella'r porwr, a bod triniaeth o CSS yn llawer gwell na'r hen, ond mai diweddariad o IE6 ydi, ac nid y porwr gorau ar y farchnad. Efallai ei fod wedi cyrraedd lefel Firefox 2.0, ond mae'r plug ins sydd ar gael i Ff yn ei wthio i'r brig yn hawdd.

Mae CNet wedi rhoi 7.0 allan o 10 iddo fo, ond mae defnyddiwr CNet ond yn rhoi 5.3 allan o ddeg.

A gyda rhyddhad Windows Vista yn 2007, sef system weithredu newydd Microsoft i gymryd lle Windows XP, mae nifer yn disgwyl yn eiddgar.

canran uchel o'r niferoedd hynny yw hacwyr a chracwyr y byd, sy'n glafoerio am y cyfle i roi cic yn din Microsoft. Ond mae Bil a'i fets yn hyderus na fydd Vista â'r un problemau diogelwch â pob fersiwn arall o'u system weithredu, ac maent wedi rhoi cyflwyniad i gynhadledd diogelwch Black Hat dros yr haf.

Mae cwmnïau diogelwch yn dweud na fyddent yn colli cwsg yn poeni am golli busnes.

Sgrech Wilhelm

Efallai bydd hwn yn swnio'n gyfarwydd: y sgrech â recordiwyd yn y 1950au sydd wedi'i ddefnyddio ganwaith ers hynny mewn ffilmiau.