Ubuntu


Neshi allu osod Ubuntu ar y PC adra neithiwr heb ddim stress. Mae Ubuntu yn gwerthu'i hun fel system sydd yn Jyst Gweithio™, a dyna'n union wnaeth o. Doedd dim angen i mi ffidlan o gwbl, jyst agor Firefox a roedd y wê yn barod.

Doedd hi ddim wedyn yn drafferth i lawrlwytho'r updates (un glic) i gael y system yn barod, ac yna pimpio fo 'chydig gyda'r cyfarwyddiadau hyn i ymdebygu i FacAfal. Oce, ella bod o'n edrych chydig fel "OS X o Matalan" fel udodd fy ffrind Macaidd, ond llawer rhatach na Matalan, gan gostio union £00.0 i mi.

Mae werth cael y live CD oherwydd gellir ei redeg o'r CD, heb orfod gosod dim ar y ddisgen galed, a cholli'r holl stwff pwysig 'na.

Heno dwi am osod file server i allu rhannu'r lluniau a'r gerddoriaeth sydd ar y peiriant efo'r gliniadur sydd fyny grisiau, ac LAMP er mwyn i mi gael datblygu i'r we heb orfod tarfu ar fy server byw.

Dwi wedi chwarae efo Linux o'r blaen a gosod Mandriva, ond nid oedd o'n llawer o hwyl. Mae'r Ubuntu llawer gwell, ac, fel mae'r tagline yn mynd: "Linux for human beings".

Tata Bill Gates!

Labels:

2 Sylw:

  • Blogger Huw, 12:05 pm  

    Hawdd iawn i'w ddefnyddio.

    Nes i lwyddo i gael Ubuntu yn gweithio ar gyfrifiadur 10 mlwydd oed, yn ogystal a Mac, heb ddim trafferth o gwbwl.

  • Blogger Mei, 12:41 pm  

    Ynde.

    Installation a phopeth yn hawdd iawn. Ideal i bawb sydd angen ebostio, pori a sgwennu dogfennau.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.