Dydd Gwyl Dewi

Dydd Gwyl Dewi hapus i ti.

O'n i'n gweld ar flog Chris bod yr e-ddeiseb wedi bod yn aflwyddiannus, er gwaethaf sylwadau Yncl Gordon.

Gwnaeth hyn i mi feddwl am be mae diwrnod i ffwrdd o'r gwaith yn golygu. 'Da ni'n gofyn am ddiwrnod o wyliau i ddathlu gwyl ein nawddsant a/neu Cymru a Chymreictod.

Ond pam bod angen diwrnod o wyliau? Fyswn i ddim yn aros adra i wisgo'r wraig mewn gwisg traddodiadol a chanu cerdd dant trwy'r dydd, gyda chawl cenin a Welsh Lam© i ginio.

Os fysa 'na wyliau heddiw fyswn i wedi deffro'n hwyr, ac ella gwneud rhywbeth yn yr ardd neu'r ty neu mynd i rhywle am dro.

Beth fuasa ti'n gwneud ar dy ddiwrnod ffwrdd? Ta ydi hyn yn frwydr symbolaidd i gael rhyw fath o recognition pellach i Gymru?