Band makepovertyhistory.org

Dwi wedi bod yn gwisgo un ohonynt ers tro bellach, a newydd roi un ar y blog (ia, draw fana ar y dde).

Os fysa chdi'n licio rhoi honna ar dy flog (os mai un blogger.com sydd gen ti) yna darllena 'mlaen.

Yn y dashboard, clicia ar Template (wrth ben y dudalen, rhwng Settings a View Blog).

Sgrolia lawr y sgrin côd tan ti'n dod i

#sidebar {
margin: 0 41px 0 547px;
padding: 20px 0 0 0;
font-size: 85%;
line-height: 1.4em;
color: #999;
}

ac ychwanega y darn yma o gôd ar ol color:#999; ond cyn y } olaf

background: url(http://www.makepovertyhistory.org/whiteband_small_right.gif) no-repeat -110px -195px;
z-index:1000;

h.y. fel ei fod yn edrych fel hyn

#sidebar {
margin: 0 41px 0 547px;
padding: 20px 0 0 0;
font-size: 85%;
line-height: 1.4em;
color: #999;
background: url(http://www.makepovertyhistory.org/whiteband_small_right.gif) no-repeat
-110px -195px;
z-index:1000;
}

Da de!

Os oes gen ti ddiddoreb mewn dysgu mwy o CSS, sbia ar y rhestr gwefannau dwi wedi rhoi mewn neges flaenorol.