Tescon

Falch i weld bod rhywun wedi dechrau ymgyrch yn erbyn monopoli Tesco fel yr archfarchnad fwya yn y wlad.

Oddi ar wefan y BBC, stori am tescopoly.org, sydd yn ymgyrchu am system 'watchdog' newydd i gadw cyw ar Tesco i sicrhau bod pawb yn cael budd o'r busnes (ffermwyr, cyflenwyr ayyb).

Wedi darllen 'chydig, ro'n i'n teimlo'n euog am beidio â gwneud dim am Tesco Bangor yn ailadeiladu'r siop yn fwy. Bechod na fasa fi wedi meddwl yn gynt.

Ro'n i chydig yn siomedig hefyd i nodi mai <tables> a javascript sy'n rheoli delwedd y wefan, ac nid CSS.