.cw

Trafodaeth ddiddorol ar maes-e.com ynglyn รข ymgyrch i gael parth lefel uchaf i Gymru, neu top level domain.

Y syniad sy'n cael ei gynnig yw .cw, er engraifft www.mei-felinheli.cw. C am Cymru a W am Wales.

Syniad da dwi'n meddwl, ond ddim mor hawdd a mae'n swnio. Fel mae Dafydd yn dweud ar maes-e, mae angen trefniadaeth i'w redeg yn effeithlon. A hefyd dwi'n meddwl y dylai'r ymgyrch gysylltu a gweithio gyda ymgyrch debyg yn yr Alban, neu mi eith hi i nunlla.