Thaipusam

Geshi'r fraint o ymweld â Gwyl Thaipusam fore Sadwrn. Gan ein bod fod i gychwyn am 5.00yb penderfynodd Ian a fi i aros fyny drwy'r nos (ddim yn annodd pan doedden ni ddim adra tan 3.00yb).

Cyrhaeddodd Kris y gyrrwr tacsi am 4.30yb, felly roedd hi'n banics gwyllt i ddeffro Alice a Gareth er mwyn cael cychwyn. Yn amlwg roedd y ddau ohonom dal 'di meddwi, ond mi sobrish fyny reit gyflym ar ôl cyrraedd.

Roedden ni wedi cyrraedd Ogofau Batu am tua 5.20yb, ac yn barod roedd miloedd o bobl eisoes wedi cyrraedd. Roedd y profiad o weld yr holl bobl 'ma yn cerdded i'r ogofau, ynghyd a'r cerflun newydd o'r Arglwydd Murugan, sy'n 140 troedfedd ac wedi'i baentio gyda aur, yn hollol wefreiddiol.

Roedd nifer o'r bobl mewn trans, a llawer o'r rheiny wedi unai rhoi sciwer trwy eu bochau, neu rhesi o fachau yn eu cefnau, er mwyn i eraill eu tynnu'n ôl.

Gadawon ni am 10.00yb, wedi blino'n lân, ac yn cesio digymod â be roedden ni wedi gweld. Cyn gadael, cafodd Ian ac Alice eu cyfweld gan deledu Croatia, yna i'r tacsi ac adra i gysgu.

Dwi wedi rhoi chwe llun ar Flickr, wir yr ma' nhw werth i'w gweld.