AJAX

Tra'n ehangu fy ngwybodaeth o XHTML, CSS a dylunio graffeg, dwi hefyd yn trio ngorau i ddysgu AJAX.

Os 'da chi wedi defnyddio Flickr neu un o apps 37signals, fyddwch chi'n gyfarwydd â'r dechnoleg. Mae'n galluogi'r defnyddiwr i wneud newidiadau i dudalen heb orfod ei ail lwytho'r dudalen gyfan.

Mae AJAX sefyll am Asynchrous JavaScript And XML, gan ei fod yn defnyddio JavaScript i anfon negeseuon XML yn ôl a 'mlaen i'r server yn ansyncronig (heb orfod ail lwytho'r dudalen).

Hyd yn hyn dwi'n ffindio fo'n annodd, ond mae o'n dod yn ara' deg.

Blog diddorol dwi wedi ffindio ar y mater yw Particletree. Blog y cwmni Infinity Box Inc ydi o. Mae'r staff yn ysgrifennu i gadw trefn ar eu gwaith, ac hefyd maent yn ysgrifennu nifer o erthyglau diddorol ar ysgrifennu a datblygu AJAX.

Tudalen aral hynod ddefnyddiol yw/fydd adnodd AJAX solutoire.com. Mae'n drysor o ddoleni, rhai nad ydw i wedi cael y cyfle i'w dilyn yn drwyadl.

Ac os dwi wedi codi awydd yn unrhywun weid'i erthyglau am CSS, mae StyleGala ar werth.

Technorati:
, .