Brynstock '06

Neithiwr aeth fi a Cat i noson Tân y Ddraig yn y Faenol.

Yn ffodus iawn, o'n i'n cofio nad oedd poteli yn cael eu gadael mewn ers flwyddyn diwethaf, a prynais focs o win er mwyn tori'r syched anochel.

Fel pob blwyddyn roedden ni yna'n gynnar, ond yn synnu i weld ciw oedd yn ymestyn ar draws y lawnt a oedd bron a chyraedd y ty. Roedd hyn oherwydd y penderfyniad (a wnaed am 4yp ddoe) i beidio a gadael caniau i'r maes, ac i archwilio bagiau pawb oedd yn mynd mewn.

Wrth gwrs roedd lot o bobl yn anhapus gyda hyn (a pan dwi'n deud anhapus, be dwi'n feddwl ydi ffycin pisd off). Roeddwn i a Cat yn ciwio am 3/4 awr (a hitha 7 mis yn feichiog) a pan cyrhaeddon ni ochr arall y giât roedd 'na fwy tu allan yn ciwio nac oedd tu mewn yn gwrando ar Nathan Williams (a damia hynny hefyd, fethish i ei set o, ond dal udo Tara Bethan).

Felly pa hawl sydd ganddyn nhw i wneud hyn? O'r chydig dwi'n wybod am y gyfraith, dim ond yr heddlu sydd â'r hawl i archwilio eiddo unrhywun, a hynny pan mae gennynt resymau cadarn. Nid oedd dim i rybuddio am archwiliad, a ni ofynnodd neb i fi i gael agor fy mag a mynd trwy fy mhetha. Â yw hyn yn gyfreithiol? Dwi'n ama.

Nid oedd unrhyw fan ar y nosweithiau blaenorol. Ond wrth gwrs fysa'r pobl neis o Gaer ddim yn cymryd body-search, a ddim yn troi fyny y flwyddyn nesaf. And we can't have that, can we?

Rhesymau diogelwch oedd tu ôl i'r can-ban, mae caniau yn gwneud taflegrau effeithiol*. Rhywbeth arall sy'n gwneud taflegrau effeithiol yw ceiniogau. Felly beth am eu banio? Ta fysa hynny yn effeithio proffits y bar?
*Roedd gen i ymbarel hefyd. Mae'n gwneud gwaywffon effeithiol, ond nid yw'r swyddogion diogelwch yn poeni am hyn.

2 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 3:43 pm  

    Byddwn i'n reit pissed off gyda hynna, yn enwedig os oedd hawl gan pobl aeth nosweithiau cynt i fynd a chaniau. Digwyddodd rhywbeth tebyg yn Pesda Roc pan es i tua dwy/dair blynedd yn ôl, doedd chi ddim yn cael mynd a bwyd mewn hyd yn oed. Roedd y ciw wedyn am y bar yn anhygoel - roeddwn wedi peswadio fy nghefnder i yrru fel gallwn yfed a ches i ddim drop. Yn y diwedd roedd pobl mor flin dyma'r trefnwyr yn gadael i bobl fynd o'r cae rybi i'r dre i nol cwrw yn y diwedd.

    Y cwbwl er mwyn trio cael mwy o bres o bobl.

  • Blogger Mei, 10:56 am  

    Ia, dwi'n cofio hynny 'fyd. awr o giw!

    Nyts.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.