Keyboard Shortcuts

Dwi'n gweld defnyddio'r allweddell weithiau yn hytrach na'r llygoden yn llawer mwy cyfleus, felly dyma fi'n rhannu technegau.

I gael y gorau o'r rhain, dwi'n awgrymu cadw'r law chwith wrth ochr chwith yr allweddell o pan yn defnyddio'r cyfrifiadur.

Control a...

I gopïo testun, mae'n bosib rhoio glec ar y botwm dde, a dewis Copy o'r ddewislen. Ffordd gyflymach a hwylusach yw defnyddio Control+C. Gellir yna defnyddio Control+V i bastio'r testun yn lle bynnag.

Ynghyd â'r ddau yna mae Control+X yn gwneud Cut, sydd fel Copy, ond mae hefyd yn dileu'r testun o'r sgrin (Control+V eto i'w bastio). Mae hyn yn ddefnyddiol i symud testun o un lle i'r llall, heb orfod wneud Copy, Paste a Delete.

Os wyt ti wedi gwneud camgym, pwysa Control+Z i wneud Undo. Mae hwn yn gweithio bron ymhob rhaglen yn Windows. Os wyt ti'n penderfynu nad oeddet ti am wneud Undo, pwysa Control+Y i wneud Redo.

Mae Control+A yn copïo popeth yn y ffenestr/ddogfen. Un defnydd o hwn yw i gopïo ffeiliau o un directory/folder i'r llall. Dwi'n aml yn rhoi ffeiliau ar fy ngherdyn USB. Felly os dwi am eu copïo i ffolder arall, does ond angen Control+A i ddweis pob un, yna Control+V i'w roi yn y ffolder/directory arall. Os tisho dewis nhw i gyd heblaw un, mae dal Control lawr o chlicio ar y ffeil yna yn deselectio. Gellir clicio ar fwy nag un fel bo'r angen.

Ffordd gyflym o wneud Save yw Control+S. Mae Control+Shift+S yn gwneud Save As... (neu F12 yn MSOffice). Control+N i agor dogfen newydd. Control+O i agor dogfen, a Control+P i argraffu.

Fformatio: Control+I am Italics, Control+B i gael Bold, Control+U i gael underline (dim fysa chdi isho neud hynny...), ac yn Word, Control+Return i wneud page break. Mae Control+I a Control+B yn gweithio hefyd yn Blogger.

I wneud maint y testun yn fwy yn Firefox, Control++ (y botwm + unai ar y prif alweddell neu'r keypad). Control+- i'w wneud yn llai, ac os ti wedyn ar goll a methu cofio maint gwreiddiol y testun, Contol+0 (zero).

Eto yn Firefox, Control+W i gau y tab presennol. Control+J i ddangos y rheolwr lawrlwytho.

I ddarganfod gair mewn dogfen yn gyflym, mae Control+F yn agor yr arf chwilio. Mae hyn yn gweithio yn Firefox, IE a Word (sy'n agor y search & replace) a nifer o raglenni eraill. Dwi'n ffindio hwn yn ddefnyddiol ar dudalen we faeth, fedrai chwilio o fewn y dudalen am y gair dwi angen.

Symud o gwmpas y ddogfen

Yn hytrach na defnyddio'r llygoden i roi'r cusror yn y man priodol, dwi'n defnyddio'r allweddell. Dwi'n weld o'n llawer mwy cyfleus na mynd o'r allweddell i'r llygoden.

Control+ ← →. Wrth bwyso'r saethau cwhith a dde yn unigol, mae'r cursor yn symud un bwlch. Wrth eu pwyso gyda Control, maent yn symud un gair. Mae hyn yn gynt i gywiro typos ayyb.

Mae Shift+ ← → yn highlightio testun un llythyren ar y tro. Efo Shift+Control mae'n bosib highlightio geiriau cyfan. Mae hyn yn ddefnyddiol i ddileu gair/geiriau, neu i roi fformatio Bold, Italic neu Underline yn gyflym.

Gan ddefnyddio'r rhain gyda'r botymau Home ac End (sydd wrth y botwm Delete), gelli symud ar draws dogfen fel mellten, a heb sticio'r tafod allan wrth symud y lygoden i rhywle manwl. Yn syml, mae Home yn mynd i ddechrau'r linell, a End yn mynd i ben y llinell.

Mewn porwr mae End yn mynd yn syth i ddiwedd y ddogfen, a Home yn mynd yn ôl i'r cychwyn. Mae Page Up a Down yn scrolio'r ddogfen fyny a lawr fesul hyd sgrin.

Yn Firefox mae Alt+Home yn eich anfon i'ch tudalen gartref.

Tab

Heblaw am wneud bylchau mawr mewn dogfennau prosesu geiriau, mae'r Tab yn ddefnyddiol i neidio o un peth i'r llall. Mae Shift+Tab yn mynd a chi'n ôl.

Mewn porwr, mae sawl defnydd. Yn firefox, os dwisho neud archwiliad cyflym heb adael y dudalen bresennol, dwi'n pwyso Control+T yna Tab. Bydd hyn yn agor tab newydd, ac yn anfon y cursor i'r bocs chwilio bach yn y gornel dde uchaf. Os ti am wneud chwiliad yn y dudalen bresennol, mae Control+E yn mynd a ti'n syth i'r bocs chwilio.

Mae Control+Tab yn cycleio trwy'r tabs sy'n agored.

Yn Windows mae Alt+Tab yn arddangos a rhoi dewis o bob rhaglen sy'n agored. Mae angen dal Alt i lawr, a phwyso Tab i ddewis y rhaglen. Mae trio hyn allan yn haws na fi'n ceisio esbonio.

Alt+F4 i gau rhaglen.

I ddiffodd Windows yn gyflym: botwm Windows > ↑ > a gwasgu return ddwywaith.

A dyna ni

Wel Duw, do'n i'm yn sylweddoli mod i'n defnyddio gymaint. os dwi'n meddwl am fwy mi wnai eu hychwanegu.

Os ti'n ffindio'r ganllaw hon yn ddefnyddiol, pwysa Control+D i roi y ddudalen hon yn dy favourites!

2 Sylw:

  • Blogger Nwdls, 4:41 pm  

    Aye, ma'r stwff yma'n wych unwaith ti wedi dod i arfar. Un peth sy'n y nghael i ddo. Pan ti'n TABio drwy flychau ar dudalen we, a ti'n methu'r blwch o un. Dwi'n gorfod TABio yr holl ffordd drwy'r blychau ar y ddogfen i gyrraedd nôl yno eto.

    Sna unrhyw ffordd o wneud reverse TAB?!

  • Blogger Dafydd Tomos, 5:50 pm  

    shift-TAB i fynd nol fyny.

    Un llwybr byr dwi'n ddefnyddio drwy'r amser yn Linux (ond dyw e ddim yn gwneud gymaint o synnwyr mewn GUI Windows) yw CTRL-U - mae'n dileu y linell gyfredol.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.