Defnydd pellach o Google

Dwi'n siwr bod y rhan fwyaf o'r gymuned on-line wedi defnyddio google rhywbryd. Ond dwi ddim yn siwr pa mor boblogaidd yw defnyddio teclynau arbennig i wneud chwilio'n haws.

Rhywbeth dwi'n defnyddio pob dydd yw'r dyfynodau (""). Mae rhoi geiriau o fewn dyfynodau yn gofyn i google chwilio am y geiriau yna yn y patrwm yna. Er engraifft, mae chwilio am RSS and AJAX yn rhoi tudalen wahanol i "RSS and AJAX".

Mae'r gallu i chwilio am frawddegau penodol yn arbed llawer o amser.

Gall google gyfyngu'r chwilio i ffeiliau o un math gyda filetype:. Er engraifft, i chwilio am adroddiadau blynyddol mewn pdf, mae defnyddio annual report filetype:pdf yn rhoi canlyniadau pdfs yn unig. Mae hyn yn gweithio gyda doc, xls ayyb.

Gall google hefyd gyfyngu'r chwiliad i wefannau penodol gyda site:. Felly i ddarganfod storïau'r BBC am Esiteddfod 2006, defnyddiwch eisteddfod 2006 site:bbc.co.uk

Wrth gyfuno site: gyda dyfynodau gellir darganfod pethau lle "dwi'n siwr mod i wedi'i weld o ar y wefan...". Mae hyn hefyd yn ffordd sydd yn aml yn well na'r injan chwilio fewnol sydd ar wefan.

Ac i gloi, sut mae busnesu am ddogfennau "cyfrinachol": confidential "not for publication".

Mae google yn llawer mwy na'r disgwyl. Os wyt ti am fwy o wybodaeth, dos i dudalen gymorth google.

1 Sylw:

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.