D-Day

Mae heddiw yn ddiwrnod eithaf pwysig. Na, dim oherwydd ei bod hanner ffordd drwy'r wythnos, ond am fod y babi fod i'w gael ei eni.

Ond dos na'm arwydd ohona fo'n cyrraedd. Os dio rwbath fel fi, fydd o'n wythnos a hanner arall cyn cyrraedd.

Ta waeth, mae'n o'n bownd o ddod rwbryd. Watch this space (a Flickr a youTube, wrth gwrs).

Blog dwi'n darllen ers sbel ydi Bad Science gan Ben Goldacre. Mae o'n cyhoeddi ei golofn Sadwrnol yn Y Grauniad ar y blog (sy'n handi pan dwi heb ei brynnu), ond hefyd mae o'n le iddo rantio am y pseudoscience sydd yn y papurau newydd y dyddiau yma.

Mae o newydd lawnsio ei think tank newydd, Newton's Apple, i geisio cael safon uwch o newydddiaduriaeth wyddonol yn y cyfryngau, yn hytrach na'r 'Scientists discover formula for best way to eat ice cream'
ayyb sydd i'w weld yn aml.
During the crucial two days after the GM 'Frankenstein Foods' story broke in February 1999, for example, not a single one of the news articles, opinion pieces or editorials on the subject was written by a science journalist. Only 17 per cent of all the feature articles were written by science journalists.


A gan ei bod yn Wobrwyon Machinima fis nesaf, mae'n werth gwylio'r teaser ar wefan Anturiaethau Bill a John. Gret.

3 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 12:01 pm  

    Ma dy wraig wedi cytuno i ti ffilmio'r genedigaeth a'i bostio ar YouTube?!!

  • Blogger Ray Diota, 2:35 pm  

    hahaha! on i am weud yr un peth a rhys!

    ecseiting, mei. llongyfs o flan llaw 'chan!

  • Blogger Mei, 9:22 am  

    O'n i wedi meddwl streamio fo'n fyw, ond doedd hi ddim yn keen.

    Ella YouTube di'r next best thing.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.