Hapi Dolig!

Oherwydd gwaith a'r mab, dwi wedi bod yn dawel yn ddiweddar (ee mae gen i 1298 o negeseuon heb eu darllen ar bloglines!).

Felly Dolig Llawen i bawb sy'n darllen hwn.

Dyma fideo sy'n dangos planedau ein system solar wrth ei gilydd, ynghyd â rhai o ser adnabyddus y bydysawd.

Dwi â diddordeb yn y ser ers blynyddoedd, ond do'n i 'rioed wedi sylweddoli mor fach yw ein haul ni i gymharu a rhai o'r ser eraill yn y bydysawd.

I'r rhai sydd ddim mor gyfarwydd, dyma'r ser sy'n ymddangos:

Sirius yw'r seren fwyaf llachar yn yr awyr. Gellir ei gweld wrth draed Orion, yr heliwr.

Pollux, un hanner o efeilliaid Gemini. Mae Pollux wastad yn agos i'w efaill, Castor.

Arcturus yw'r seren lachar yn Bootes. Gellir ei darganfod drwy ddilyn cynffon yr Arth Fawr, neu handlen y sosban, mewn arc ar hyd yr awyr.

Rigel, y seren gyntaf yn y casgliad hwn o Orion, mae Rigel yn ffurfio'i benglin chwith.

Betelgeuse (neu Beetlejuice), eto o Orion, mae Betelgeuse yn ffurfio'i ysgwydd dde.

Antares, o gytser Scorpius, oherwydd ei safle yn yr awyr mae'n annodd i'w gweld.

Mu Cephei a VV Cephei o Cepheus, rhain yw'r rhai o'r ser mwyaf yn y bydysawd.

Am fwy o wybodaeth beth sy'n yr awyr heno, ewch i wefan Sky & Telescope a chlicio ar yr Interactive Sky Chart.