Y Rhyngwe Gas

Des i ar draws stori ar wefan y BBC on i wedi cael cip ohoni ar y radio bore 'ma, sef y fideo ar YouTube o fachgen yn chwalu ffenestr yn yr ysgol.

Roedd y boi yn meddwl ei fod â hawl i falu'r ffenestr oherwydd y ffordd roedd wedi cael ei drin gan athro.

Beth oedd yn annoying oedd ymateb Chris Keates, Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT:
Unfortunately, any yob or vandal can now have their 15 minutes of fame, aided and abetted by readily accessible technology and irresponsible internet sites which enable such behaviour to be glorified.

Yr unig un anghyfrifol yma oedd yr hogyn a'i fets. Mae beio YouTube am hyn fel cyhuddo'r fricsen o gytuno i gael ei thaflu.